<p>Gorsaf Bŵer Aberddawan</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:12, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb, er nad oedd yn egluro’n benodol pa drafodaethau y mae hi wedi eu cael. Ond o fewn yr awr ddiwethaf, credaf fod holl Aelodau’r Cynulliad wedi cael llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi beth sydd wedi digwydd yn ddiweddar mewn perthynas ag Aberddawan. Nodaf, o’r llythyr hwnnw, nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ysgrifennu at RWE, sy’n gweithredu’r gwaith hwn, tan 6 Ionawr eleni, er bod yr achos llys wedi’i gynnal fis Medi diwethaf. Ni wnaethant ysgrifennu i ofyn ynglŷn ag amrywiadau i’r drwydded tan 6 Ionawr—fel y mae’n digwydd, ar ôl i mi gyflwyno ceisiadau rhyddid gwybodaeth yn gofyn beth yn y byd oedd yn digwydd. Mae angen i reoliad y drwydded leihau allyriadau nitrogen ocsid Aberddawan islaw’r terfyn uchaf o 500 mg/cu, a gafodd ei gynnwys gan ddyfarniad y llys. Maent yn parhau—yn ôl eich llythyr at Aelodau’r Cynulliad—i dorri’r rheoliad bedwar mis ar ôl dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop. Rydych yn dweud mai Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am drwyddedu hyn, ond mae’n amlwg nad ydynt wedi trafferthu gwneud unrhyw beth yn ei gylch. Mae hyn yn adlewyrchu’n wael iawn arnom ni fel cenedl ac arnoch chi fel Llywodraeth.