Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 1 Chwefror 2017.
Dosbarthwyd y llythyr i Aelodau’r Cynulliad. Rwy’n credu mai David Melding a wnaeth gais i’r Prif Weinidog yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. Fel y dywedodd Simon Thomas, roedd yn nodi’r terfynau drwyddo draw. Bu gostyngiad, ond rydych yn gywir fod angen rhagor o waith er mwyn sicrhau bod Aberddawan yn gallu gweithredu o dan y terfyn uchaf o 500 mg /cu m ar allyriadau. Bu cryn dipyn o drafodaethau rhwng fy swyddogion a Cyfoeth Naturiol Cymru, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion fonitro’r sefyllfa’n ofalus.