Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 1 Chwefror 2017.
Roeddwn yn synnu na chefais rybudd ymlaen llaw wrth ddechrau fy mhlentyn tair oed fy hun yn ddiweddar. Y broses oedd cael cyfarfodydd ar ddechrau’r tymor a chytuno ar ddyddiad wedyn. Nid wyf yn chwilio am unrhyw ymyriad yn fy achos i, sydd wedi’i ddatrys, ond roeddwn yn meddwl tybed, o gael gofal plant i gynorthwyo rhieni sy’n gweithio yn ogystal ag addysg y plentyn, onid fuasai’n briodol os yw’r ddau riant yn gweithio, a gorfod rhoi rhybudd i feithrinfa breifat efallai, i gael o leiaf mis o rybudd ymlaen llaw ynglŷn â pha ddyddiad y gallai plentyn ddechrau mewn gwirionedd.