Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 1 Chwefror 2017.
Mewn perthynas â gofal plant y tu allan i Dechrau’n Deg, nid oes unrhyw fater statudol o ran canllawiau ynglŷn â hyn, ond rwy’n ymwybodol o bryderon yr Aelod ac wrth i ni ddatblygu’r polisi gofal plant, wrth i ni symud ymlaen, mae’n rhywbeth y byddaf yn edrych arno’n ofalus i sicrhau bod rhieni’n ymwybodol ac yn hyderus ynglŷn â sut y gallant gael mynediad at y cyfleusterau gofal plant hyn ar draws Cymru.