Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 1 Chwefror 2017.
Mae hynny’n ateb y cwestiwn ar gyfer Castell-nedd Port Talbot, ond nid yw’n ei ateb ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr. Nid beirniadaeth oedd hi; roeddwn yn ceisio darganfod y gwahaniaethau rhwng y gweithrediadau a pham y gwnaethoch y penderfyniad hwnnw, ac mae’n dal i fod braidd yn aneglur i mi.
Ar agenda ehangach Cymunedau yn Gyntaf, rwy’n clywed gan y rhai sydd â diddordeb yn nyfodol Cymunedau yn Gyntaf nad oedd yr ymgynghoriad mor gryf ag y gallai fod wedi bod mewn gwirionedd. Rwyf eisiau deall sut rydych yn dadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Rwy’n clywed eich bod wedi cael ymatebion cynhwysfawr iawn gan blant yn ysgrifennu nodyn bach i ddweud pa mor bwysig y mae’r gwasanaethau wedi bod iddynt hwy’n bersonol. Sut y byddwch yn dadansoddi pa mor bwysig ydynt, a dod o hyd i gynllun i geisio sicrhau dyfodol pa gynllun bynnag sydd gennych mewn golwg?