Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 1 Chwefror 2017.
Ymddiheuriadau, Ysgrifennydd y Cabinet, am fy ymyrraeth amhriodol. Fe ddysgaf sut y mae’r broses yn gweithio yn y man. Rwy’n credu, i raddau, eich bod wedi ateb fy nghwestiwn yn ôl pob tebyg, ond fe fyddwch yn ymwybodol o drafodaethau a gawsom mewn gohebiaeth yn flaenorol fy mod wedi siarad â chi am nifer o gynlluniau yn fy etholaeth sy’n chwarae rhan bwysig yn cynnwys pobl ifanc yn arbennig. Rwy’n cyfeirio’n benodol at gynlluniau fel Forsythia Youth yn y Gurnos a’r Engine House yn Nowlais, y byddwch yn gwybod amdanynt o bosibl. Maent yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymyrraeth gynnar gyda nifer o bobl ifanc a fuasai, yn ôl pob tebyg, heb y math hwnnw o gefnogaeth, yn crwydro’r strydoedd ac yn dod yn droseddwyr ifanc, yn anffodus. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol nad ydym yn colli’r math hwn o gynllun ymyrraeth gynnar? Yn rhan o’r dull parthau plant, a all fy sicrhau y rhagwelir y bydd gan gynlluniau ymyrraeth gynnar rôl hanfodol i’w chwarae?