<p>Sefydliadau Gwirfoddol </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 2:53, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel nifer o’r Aelodau, cefais y fraint o gyfarfod â grwpiau gwirfoddol a gweld y gwaith anhygoel y maent yn ei wneud. Un enghraifft wych yn fy etholaeth i yw’r Robiniaid, gwirfoddolwyr gydag Age Cymru, sy’n gweithio gyda Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, ac sy’n darparu cymorth i gleifion sy’n agored i niwed yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Gwynllyw. Maent yn neilltuo amser ar gyfer siarad gyda chleifion a darllen iddynt, gwneud eu gwallt a’u hewinedd, a darparu cymorth gyda phrydau bwyd, siopa a llawer o bethau eraill a all wneud gwahaniaeth mawr iawn. Mae staff yr ysbyty a’r cleifion yn disgrifio’r Robiniaid fel gwasanaeth amhrisiadwy. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gymeradwyo gwaith y Robiniaid, sy’n gwneud gwahaniaeth er gwell yng Nghasnewydd, a chanmol ymdrechion pawb sy’n rhoi o’u hamser i wirfoddoli?