<p>Sefydliadau Gwirfoddol </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:54, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich cwestiwn. Mae bron 1 filiwn o bobl yng Nghymru yn gwirfoddoli mewn rhyw ffordd bob blwyddyn, ac mae eu cyfraniad i gymdeithas yn amhrisiadwy. Hoffwn ddweud diolch yn fawr. Rwyf hefyd yn awyddus i ganmol y Robiniaid yn eich etholaeth. Pe gallem roi bonllef o gymeradwyaeth, rwy’n siŵr y buasem yn gwneud hynny yn awr, ond yn wir, Jayne, rwy’n ddiolchgar i chi am ddwyn hyn i fy sylw heddiw, gan gydnabod y gwaith da y maent yn ei wneud, ac os gwelwch yn dda, trosglwyddwch fy llongyfarchiadau i’r sefydliad hwnnw.