Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 1 Chwefror 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl mynychu Cyfarfod Blynyddol diweddar o Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe, cefais fy synnu gan y nifer fawr o fudiadau gwirfoddol yn cynnig cefnogaeth yn ymwneud ag iechyd sy’n gweithredu yn fy rhanbarth i. Roeddwn eisoes yn ymwybodol o’r gwaith rhagorol a wneir gan rai fel Tŷ Elis ym Mhorthcawl a Chanolfan Hunangymorth Sandville yn Nhon Cynffig, ond yng nghyfarfod Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe, cyfarfûm â phobl o gynllun Interact, Caer Las a’r prosiect gwirfoddol iechyd meddwl a lles i enwi ond ychydig. Mae pob un o’r prosiectau hyn yn cynnig cefnogaeth hanfodol i’n GIG, ac eto ychydig iawn sy’n derbyn unrhyw gymorth ariannol uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried bod y cyrff gwirfoddol hyn yn arbed miliynau lawer o bunnoedd yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, pa gymorth ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig iddynt?