<p>Sefydliadau Gwirfoddol </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:58, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Gallaf gynnig geiriau cynnes; ni allaf gynnig cyllid, yn anffodus. Byddai’n anonest pe bawn yn dweud hynny, ond rwy’n diolch i bob un o’r sefydliadau hyn sy’n camu i’r bwlch weithiau lle y bo pobl mewn angen, ac mae’r sefydliadau trydydd sector yn y lle iawn i gyflawni hynny; maent yn deall cymunedau’n dda iawn. Felly, er cymaint y buaswn yn hoffi cefnogi pob un o’r sefydliadau yng Nghymru, buasai’n amhosibl yn ariannol. Ond rwy’n cydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud ym mhob un o’n cymunedau.