<p>Cryfhau Cymunedau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:00, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg mae cymunedau cryf hefyd yn dibynnu, nid yn unig ar y tri ffactor a grybwyllwyd gennych, ond hefyd ar iechyd a lles y cymunedau hynny er mwyn sicrhau eu bod mewn sefyllfa i fanteisio ar yr holl agweddau eraill. I’r perwyl hwnnw, ar hyn o bryd mae gan Cymunedau yn Gyntaf elfen iechyd a lles o’i fewn, ac rydych wedi dweud mewn datganiad blaenorol eich bod yn bwriadu edrych ar y tri arall. Pa drafodaethau a gawsoch gydag Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i sicrhau y gall y byrddau iechyd gymryd rhan yn y broses hon mewn gwirionedd ond hefyd, fod ganddynt ddigon o arian i wneud hynny, gan ei bod yn bwysig i ni sicrhau ein bod yn cryfhau iechyd a lles y cymunedau hynny?