<p>Cryfhau Cymunedau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 3:01, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, ac fe ddywedais yn gynharach wrth ateb cwestiwn blaenorol beth yw ein gweledigaeth o ran adeiladu cymunedau cryf, a beth sy’n ymwneud ag adfywio economaidd, swyddi a thwf, a beth sy’n ymwneud â lles. Rwyf eisoes wedi cael trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a Gweinidogion eraill ar draws yr adran ynglŷn â sut y byddwn yn edrych ar ein ffrydiau ariannu ac yn symud at broses atal ac ymyrraeth gynnar wrth wneud y gwaith bob dydd hefyd, oherwydd mae’n rhaid i ni gael cenedl iach, gwasanaeth llesiant yn hytrach na gwasanaeth iechyd, ac rwy’n siŵr fod fy nghyd-Aelodau ar draws y Cabinet yn ymateb i hynny yn y ffordd y datblygwn ein polisïau ar gyfer y dyfodol.