<p>Cryfhau Cymunedau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 3:02, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Yn wir, ac mae’r Aelod yn gywir i grybwyll y mater. Nid yw grymuso’n ymwneud â’i gyfyngu i ddosbarth neu ddiwylliant; mae hyn yn hollgynhwysol. Yn ddiddorol, tynnodd yr Aelod, Julie Morgan, fy sylw at yr union fater hwn ddoe, ynglŷn â Phrosiect Undod. Rwy’n deall ei fod yn brosiect a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr. Rwy’n credu ei fod wedi dod i ben ddoe, os deallaf yn iawn, ond fe ofynnaf i fy swyddogion edrych ar fanylion hynny, gan fod y gymuned Sipsiwn/Teithwyr yn un o’r cymunedau mwyaf agored i niwed yn y DU. Mae cyfleoedd bywyd y gymuned hon yn wael iawn. Mae’n rhywbeth y dylem ysgwyddo cyfrifoldeb yn ei gylch.