Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 1 Chwefror 2017.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gael agor y ddadl yma ar ofal cymdeithasol, gofalwyr ac ysbytai cymunedol. Yr ydym yn siarad yn aml iawn, fel y dylem, yn y Siambr hon, am y gwasanaeth iechyd—am yr NHS—ond mae’n hynod bwysig ein bod ni bob amser yn cofio bod yna, y tu ôl i’r NHS, ecosystem gefnogol o ofal cymdeithasol, grwpiau trydydd sector, gofalwyr di-dâl—y cyfan ohonynt yn cyfrannu at yr hyn sydd ei angen ar drigolion ar hyd a lled Cymru. Yr ydym wedi cyfeirio yn aml at gamsyniad polisi y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain o ddiogelu cyllideb yr NHS yn Lloegr ar draul cyllidebau awdurdodau lleol, yn cynnwys gofal cymdeithasol. Nid wyf am dreulio llawer o amser ar hynny. Rydw i yn meddwl, serch hynny, ei bod yn deg dweud bod gan y Ceidwadwyr Cymreig farn wahanol i’w cyd-Aelodau Ceidwadol yn San Steffan. Rydw i’n meddwl bod yr Aelod dros orllewin Caerfyrddin yn haeddu clod am hynny. Nid wyf yn meddwl y byddem yn gallu dweud yr un peth flwyddyn yn ôl.
Mae Llywodraeth Cymru yn ein hatgoffa ni yn aml am y ffaith—ac y mae’n ffaith—nad yw’r gwariant ar ofal cymdeithasol yma wedi cael ei dorri fel y mae o yn Lloegr. Mae o’n wir: o’i gymharu â’r flwyddyn ariannol 2011-12, mae’r gwariant ar wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion rhyw £100 miliwn yn fwy mewn termau arian parod yn y flwyddyn ariannol ddiweddaraf, ac mae hyn hefyd yn trosi i gynnydd termau real. Felly, mi ddylem ni fod yn gweld gwelliannau. Rydw i am ichi gadw hynny mewn cof yn ystod y ddadl yma. Ond mae gen i fwy o ddiddordeb—fel y mae gan bob un ohonom ni, rwy’n gobeithio—mewn allbynnau na mewn cyllidebau. Felly, rydw i wedi bod yn edrych ar y tueddiadau dros y cyfnod yma o amser er mwyn cael trosolwg o sut mae gofal cymdeithasol yn perfformio, a hynny tra’n cydnabod bod y pwysau yn cynyddu oherwydd poblogaeth sydd yn heneiddio.
Mi oedd yna gynnydd yn nifer yr oriau o ofal cartref hyd at y flwyddyn 2014-15, ond mae yna ostyngiad wedi bod yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae hynny yn rhywbeth y dylem ni fod yn bryderus yn ei gylch, ac yn sicr yn cadw llygad arno o ran y patrwm. Mae hefyd yn werth nodi bod yr oriau sy’n cael eu darparu o ofal yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol wedi gostwng, tra bod yr oriau o ofal sy’n cael eu darparu gan gontractwyr annibynnol ar ran awdurdodau lleol wedi codi. Mae yna gwmnïau rhagorol, wrth gwrs, yn darparu gofal, ond mae angen bod yn ofalus i warchod staff a defnyddwyr gwasanaeth mewn hinsawdd lle mae contractau sero awr a chyflogau isel yn gyffredin.
Mi symudaf i at ddarparu addasiadau a chyfarpar yn y cartref. Yno rydym ni’n gweld gostyngiad o 21 y cant mewn addasiadau cartref a gostyngiad o 15 y cant mewn offer. Beth ddywedodd y Gweinidog mewn ateb i gwestiwn gen i wythnos diwethaf oedd bod angen cofio bod anghenion pawb yn wahanol ac na ddylem ni fod yn neidio i gasgliadau. Ond, mae gweld gostyngiad o 21 y cant ar adeg pan fo’r boblogaeth yn heneiddio a’r galwadau ar y gwasanaeth yn cynyddu yn creu rhywfaint o syndod i fi, o leiaf.
Mi wnaf i droi at oedi wrth drosglwyddo gofal, sy’n fesur pwysig iawn, wrth gwrs, o’r ffordd y mae’r NHS a gofal cymdeithasol yn gweithio efo’i gilydd. Mae’r Llywodraeth wedi tynnu sylw at y perfformiad yma fel enghraifft o lwyddiant, ac yn wir, os ydym ni’n edrych ar y niferoedd blynyddol o achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol, mae yna gyflawniad gwych wedi bod. Mae’n rhaid dweud, yn y cyfnod yna rhwng 2000 a 2013 pan welsom ni ostyngiad o ryw 5,000 o achosion mewn blwyddyn i lawr i 1,200 y flwyddyn, nid oes yna ddim cwestiwn bod hynny yn welliant sylweddol, ond ers 2013, wedyn, mae’r ffigurau wedi bod yn cropian i fyny yn araf. Y llynedd mi oedd yna 1,343 o achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol. Felly, mi fuaswn i’n rhybuddio’r Llywodraeth—ac rydw i’n gobeithio na fyddan nhw ddim—i beidio â llaesu dwylo. Mae pethau ar hyn o bryd yn symud i’r cyfeiriad anghywir a mwy na 100 o achosion o oedi bob mis am resymau gofal cymdeithasol yn dal i fod. Mae hyn yn broblem i’r NHS, wrth gwrs, ond mae o yn rhywbeth sy’n achosi problemau a loes meddwl, yn sicr, i gleifion sy’n canfod eu hunain wedi’u dal gan y mathau yma o oedi.