Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 1 Chwefror 2017.
Diolch i chi, Rhun. Dywedodd adroddiad y Sefydliad Iechyd yn ddiweddar fod yr angen am gyllid gofal cymdeithasol yn mynd i ddyblu yn y 13 mlynedd nesaf. Onid ydych yn credu y dylem fod yn cynllunio yn awr, nid aros am yr ychydig flynyddoedd nesaf a gorfod dod o hyd i’r holl gyllid hwn yn sydyn? Rwy’n derbyn bod £50 miliwn wedi cael ei neilltuo i’n helpu i fod yn barod ar gyfer y gaeaf, ond yn y bôn, pe bai hwn yn fusnes, ni fuasech yn caniatáu iddo barhau’r holl amser hwnnw—buasech yn dechrau cynllunio, a buasech yn dechrau ei ariannu yn awr. A ydych chi’n cytuno?