7. 6. Dadl Plaid Cymru: Gofal Cymdeithasol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 1 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 4:34, 1 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Croesawaf y ddadl hon a chynnig ein gwelliannau. Efallai y caf sôn hefyd y bydd cyfle i’r Aelodau ddatblygu’r safbwyntiau a gyflwynir heddiw mewn dadl y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei chyflwyno yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy’n meddwl yn bendant y dylem gadw hyn yn ein golwg. Mae’n rhywbeth y dylem fod yn ei drafod yn aml, yn enwedig gydag adolygiad seneddol Ysgrifennydd y Cabinet ar y gweill.

Effeithir ar ofal cymdeithasol da gan nifer o faterion cymhleth am fod gan ein hetholwyr anghenion cymhleth. Nid yw’n agored i ateb homogenaidd gan nad ydym yn Gymru homogenaidd. Ni ellir ystyried labeli fel ‘integreiddio’ yn fwled arian fwy nag y gellir ystyried Llywodraeth Cymru yn ŵydd aur. Mae integreiddio systemau sydd eu hunain yn amherffaith ac yn anghyfartal o ran statws yn creu ei beryglon ei hun yn ogystal â rhai enghreifftiau hynod o gyffrous a da. Ond pam fod y llwybr mor gul tuag at newid systemig sylfaenol, sef yr hyn y gallai fod ei angen arnom mewn gwirionedd?

Yn sicr, nid wyf am i chi feddwl nad wyf yn credu mai integreiddio yw’r ffordd anghywir i fynd—nad integreiddio yw’r ffordd anghywir i fynd—ond pa mor bell a pha mor eang? A ydym o ddifrif am gydleoli popeth mewn ysbytai? A ydym yn sôn am wasanaeth gofal gwladol sy’n datgysylltu gofod ysbyty cyffredinol dosbarth i bob pwrpas oddi wrth lefiathan newydd sy’n gyfrifol am ofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal cymdeithasol, ac efallai’n cael gwared ar gyfrifoldeb strategol awdurdodau lleol yn gyfan gwbl hyd yn oed? A ydym eisiau rhwydwaith o fodelau Llanfair-ym-Muallt neu fodelau Prestatyn? A ydym yn trosglwyddo pob gweithiwr cymdeithasol i mewn i’r GIG neu’r holl therapyddion galwedigaethol allan i’r awdurdodau lleol? Faint o gyfrifoldeb a roddwn ar yr unigolyn neu eu teulu neu eu cyfrif banc neu’r pwrs cyhoeddus?

Nid wyf yn credu y gall adolygiad seneddol y Llywodraeth gau llygaid wrth wynebu newid gweledigaethol trawsnewidiol, ac rwy’n gobeithio y bydd yn mynd ati o ddifrif i ddefnyddio’r cyfnod hwn o arbrofi, os hoffech, gyda’r gronfa gofal canolraddol fel ateb tystiolaethol, ond nid yr ateb terfynol. Chwyldro neu esblygiad—rwy’n eithaf agored fy meddwl ynglŷn â’r naill lwybr neu’r llall, cyn belled ag y ceir penderfyniad yn nau ystyr y gair, ond ni chawn hynny oni bai ein bod yn edrych y tu hwnt i’r GIG a’r gwasanaethau cymdeithasol.

Ar y cynnig—pwyntiau 3 a 4 yn gyntaf. Gwnaeth yr wrthblaid o bob lliw, neu’r pleidiau o bob lliw, yr achos yn y Cynulliad diwethaf, fel y gwnaethant eisoes yn y Cynulliad hwn, fod cau ysbytai cymuned wedi mynd yn rhy bell—ymrwymiadau maniffesto gan bawb. Oedd, roedd angen moderneiddio neu adnewyddu rhai adeiladau, ond yr hyn yr ydym yn galaru ar eu holau mewn gwirionedd yw’r gwelyau, nid yr adeiladau. Cau ysbytai cymuned a cholli eu gwelyau oedd y ‘trobwynt’ yn ôl yr hyn a ddywedodd Cydffederasiwn GIG Cymru yn eu cyfarfod â mi yr wythnos diwethaf.

Bydd pob un ohonom yn dweud bod unigolyn yn well ei fyd gartref gyda phecyn gofal galluogi neu ailalluogi priodol, ond nid oes cynllun B, oes ‘na? Nid cadw pobl mewn gwelyau acíwt neu gomisiynu lleoedd cam-i-lawr mewn cartrefi preswyl yw’r ystod hyblyg neu eang o leoliadau y cyfeirir atynt yng ngwelliant y Llywodraeth. Rydym angen y gwelyau cymunedol bellach i ddiogelu pobl rhag y sefydliadoli newydd mewn gwelyau acíwt a grëwyd gan oedi wrth drosglwyddo gofal. Nid y gwelyau cymunedol hyn sy’n achosi sefydliadoli mwyach.

Mae proffesiynau perthynol i iechyd yn debygol o gael asesiad mwy cywir o anghenion cymorth parhaus rhywun o wely cymunedol—yn amlwg, efallai na fydd mor gywir ag y buasai yng nghartref unigolyn, ond mae hynny’n dal i greu risgiau lle na chaiff asesiad ei ddiwallu gan ddarpariaeth uniongyrchol. Hyd nes y gallwn lwyr ddiwallu anghenion cleifion drwy agor gwelyau cymunedol newydd fel rhan o’u gofal seibiant ac ailalluogi, mewn lleoliadau newydd o bosibl, yna dylai’r Llywodraeth wrando. Yn y Cynulliad hwn a’r diwethaf, a oedd hefyd yn gytbwys, gadewch i mi ddweud, mae’r holl wrthbleidiau sy’n cynrychioli eu hetholwyr wedi bod yn dweud wrthych am roi’r gorau i gau ysbytai cymuned.

Byddwn yn cefnogi pwynt 1 y cynnig, ac nid yw ein gwelliant iddo ond yn pwysleisio beth sydd bellach yn hunanamlwg: gofal ailalluogi neu oedi’r angen i dderbyn i’r ysbyty yn y lle cyntaf—dyna beth rydym ei eisiau ar gyfer ein hetholwyr a dyna beth rydym ei eisiau i’r GIG. Ni allwch gael y cyfraniad hwnnw tuag at gynaliadwyedd heb y pethau hyn, nid yn unig gyda gofal corfforol, ond yn seicolegol hefyd, oherwydd os ydych yn teimlo bod eich anghenion meddygol a phersonol o dan eich rheolaeth—eich bod yn teimlo eu bod yn cael eu diwallu—efallai y byddwch hefyd yn teimlo’n ddigon hyderus i ofyn am help gyda’ch anghenion cymdeithasol, ac unigrwydd yw’r enghraifft y mae pawb ohonom wedi bod yn siarad amdani’n ddiweddar.

Yn olaf, pwynt 2 y cynnig a’n hail welliant—wel, ie, wrth gwrs, mae gofalwyr di-dâl yn gwneud y cyfraniad hwn tuag at gynaliadwyedd, ac mae diwallu eu hanghenion yn rhan o ddiwallu anghenion y rhai sy’n derbyn gofal, a dyna pam y defnyddiais adran 35 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn hytrach nag adran 40, yn y gwelliant. Rwy’n gobeithio na fydd yn cael ei wrthod am y rheswm syml na restrais naw adran ar wahân o’r Ddeddf honno. Dyma fy ymgais drwsgl i ddweud bod gofal cymdeithasol yn ymwneud â grŵp o bobl o bob oed, sut bynnag y caiff ei dorri’n fân yn y ddeddfwriaeth—y rhai sy’n derbyn gofal yn gyntaf ac yn bennaf, ond hefyd gofalwyr, gweithwyr gofal, gweithwyr iechyd, darparwyr tai, adeiladwyr tai, teuluoedd, elusennau, cymdogaethau, cwmnïau ynni ac ie, hyd yn oed rheolwyr a gwleidyddion. Mae angen i ni godi ein pennau ychydig ar hyn, ac mae edrych ar agenda integreiddio’r GIG yn golygu mai chwilio am hanner yr ateb yn unig yr ydym. Diolch.