Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 1 Chwefror 2017.
Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl heddiw. Gyda’r rhagolwg y bydd nifer y bobl 65 oed a throsodd yn cynyddu oddeutu un rhan o dair yn ystod y 15 i 20 mlynedd nesaf, a thraean o’r boblogaeth oedolion yng Nghymru ag o leiaf un salwch cronig, rydym yn dod yn fwyfwy dibynnol ar ein sector gofal cymdeithasol. Yn anffodus, mae toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol wedi rhoi straen ychwanegol ar ofal cymdeithasol, ac wedi cael effaith ganlyniadol ar ein GIG. Mae lefelau oedi wrth drosglwyddo gofal yn parhau i fod yn annerbyniol o uchel. Am y chwarter diwethaf y ceir ffigurau ar ei gyfer, gwelsom gynnydd o 2 y cant mewn achosion o oedi wrth drosglwyddo ac erbyn hyn mae dros 500 o gleifion yn treulio mwy o amser yn yr ysbyty nag sydd ei angen. Yn wir, wynebodd oddeutu 30 o gleifion oedi o fwy na 26 wythnos, a dyna hanner blwyddyn wedi’i threulio yn yr ysbyty heb fod angen.
Mae’r achosion hyn o oedi diangen yn costio miliynau o bunnoedd i’r GIG bob blwyddyn, ond mae’r gost i’r unigolyn yn anfesuradwy. Yn ôl Age Cymru, ymhlith y prif ffactorau sy’n gyfrifol am oedi wrth drosglwyddo gofal mae diffyg cyfleusterau priodol ar gyfer ailalluogi ac ymadfer, oedi hir wrth drefnu gwasanaethau i gynorthwyo pobl yn eu cartrefi eu hunain, a’r rhwystrau sy’n bodoli rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Canfu arolwg diweddar o reolwyr y GIG gan Gydffederasiwn y GIG fod llawer yn teimlo bod diffyg gwariant awdurdodau lleol wedi effeithio ar eu gwasanaethau. Felly, mae’n hollbwysig fod gennym wasanaethau gofal cymdeithasol sy’n effeithiol ac wedi’u hariannu’n dda a fydd yn cadw’r GIG yn gynaliadwy.
Polisi UKIP ac yn wir, un o’n dadleuon cynharach oedd ailgyflwyno ysbytai bwthyn cymunedol, neu fersiwn ddiwygiedig ohonynt. Mae gan ysbytai cymuned, neu ysbytai bwthyn, rôl hanfodol i’w chwarae yn darparu gofal seibiant a lleddfu’r broses o drosglwyddo’n ôl i leoliadau iechyd cymunedol i rai sydd wedi bod angen gofal mewn ysbyty. Nid oes angen i rai pobl aros yn yr ysbyty, ond ni allant fynd adref i fod ar eu pen eu hunain, neu am nad ydynt yn ddigon da am resymau eraill efallai, felly mae ysbytai bwthyn yn hanfodol.
Erbyn hyn mae gennym ychydig o dan 11,000 o welyau ysbyty a chyfraddau defnydd o bron 87 y cant. Pan drosglwyddwyd y gwaith o redeg y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i’r Llywodraeth Lafur, roedd gennym bron i 15,000 o welyau ysbyty a chyfraddau defnydd o 79 y cant. Rwy’n sylweddoli bod pethau wedi newid a bod mwy o wasanaethau ar gael, ond os yw pobl yn cael eu rhyddhau’n rhy gynnar o’r ysbyty—a rhaid i ni gadw hyn mewn cof—oherwydd prinder gwelyau fel hyn, mae perygl uchel o atglafychu, a bydd hynny, unwaith eto, yn effeithio ar wasanaethau ariannol GIG. Lle y ceir prinder gwelyau, y canlyniad yw rhestrau aros hwy, pwysau’r gaeaf sy’n para’r rhan fwyaf o’r flwyddyn, a’n GIG dan bwysau na all ei gynnal rhagor. Rydym yn cydnabod yn llwyr y ddyled na allwn byth mo’i had-dalu i ofalwyr a gwirfoddolwyr di-dâl.
Felly, gan gadw’r arian sydd ar gael mewn cof, a chyllideb nad yw’n gallu ymestyn llawer pellach, hoffwn weld y broses o gau ysbytai bwthyn cymunedol yn cael ei gwrthdroi a chyllid ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yn cael ei gynyddu. Diolch yn fawr.