Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 1 Chwefror 2017.
Rwy’n falch o gael cyfle i gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma. Wrth gwrs, mae’r ffaith ein bod ni i gyd yn byw yn hŷn yn destun dathliad, a dweud y gwir. Fel rydw i wedi’i ddweud o’r blaen am hyn i gyd, mae’n destun dathliad, llwyddiant y gwasanaeth iechyd. Yn ôl yn 1950 fe wnaeth y brenin ar y pryd arwyddo 250 o gardiau pen-blwydd i’r sawl a oedd yn 100 mlwydd oed y flwyddyn honno—250 ohonyn nhw trwy Brydain i gyd. Erbyn 1990, 40 mlynedd yn ddiweddarach, roedd angen i’r Frenhines Elizabeth, nawr, arwyddo 2,500 o gardiau i’r sawl a oedd yn 100 mlwydd oed. Ddwy flynedd yn ôl, roedd rhaid i’r Frenhines Elizabeth arwyddo 13,000 o gardiau i bobl yn y Deyrnas Unedig a oedd yn 100 mlwydd oed, ac ar ben hynny 14,000 o gardiau eraill y llynedd i’r sawl a oedd wedi cyrraedd eu 100 mlwydd oed. Felly, mae’n destun dathliad ein bod ni yn y sefyllfa lle rŷm ni, er efallai bod achos pryder i ‘work-life balance’ y Frenhines.
Ond ar ddiwedd y dydd, mae hyn yn achos dathliad, a’r synnwyr ydy: sut ydym ni’n mynd i ddelio efo’r ffrwydrad yma yn yr henoed, sydd i’r groesawu? Ie, rydym wedi colli gormod o wlâu. Yn gynyddol nawr fel meddygon teulu rydym yn cadw pobl adref yn eu cartrefi sydd yn eu 80au a’u 90au, yn fregus iawn ac yn sâl iawn. Mewn blynyddoedd a fu, buasem ni wedi eu danfon nhw i fewn i ysbyty, ond rŵan ni fedrwn gyfiawnhau hynny achos nid oes gwely ar gael, felly rydym yn gorfod cadw’r bobl yma, yn hen ac yn fregus, yn eu cartrefi. Rydym yn hollol ddibynnol ar y gofal cymdeithasol yn y cartrefi. Mae’r gofal yna yn fendigedig y rhan fwyaf o’r amser, mae’n rhaid i mi ddweud, ac rwyf i’n hollol ddibynnol arno fo fel meddyg teulu, neu buasai’r system yn cwympo yn deilchion. Mae’n rhaid i ni gydnabod—rydym wastad yn sôn am y gwasanaeth iechyd yn fan hyn, ond os ydy’r gwasanaeth gofal cymdeithasol yn mynd, mae o’n gyfan gwbl yn tanseilio bodolaeth y gwasanaeth iechyd. Nad anghofier hynny.
I athronyddu ychydig bach ynglŷn â’r ffordd orau ymlaen, roeddwn yn gwrando ar Eluned Morgan mewn dadl fer rai misoedd yn ôl yn sôn am yr angen am ail-greu gwasanaeth gofal cymdeithasol. Rwy’n cytuno gyda hynny, achos mae eisiau ‘revolution’, fel y buasai Suzy’n dweud, achos rydym wedi mynd i ddiystyru pwysigrwydd gofal fel dimensiwn. Mae pawb yn edrychyd ar feddygon a nyrsys, ac yn dweud eu bod nhw’n ffantastig, ac mae’r parch bendigedig yma—ond yng nghanol yr holl dechnoleg a’r gallu a’r uwch-seinyddion a’r pelydr X a phob peth, rydym wedi mynd i israddio gofal tyner, tosturiol tuag at berson arall. Rydym wedi israddio hynny, ac rydym wedi colli hynny—nid ydym yn gallu ei wneud o—ac nid ydym yn rhoi’r parch y dylai’r sawl sydd yn gofalu ei gael. Rydym ni’n gweld hynny, fel mae Sian Gwenllian wedi dweud, efo’r ‘zero-hours contract’ ac ati. Nid ydych chi’n cael hynny efo nyrsys a meddygon, ond mae gofalwyr yn gorfod eu derbyn nhw, achos, fel cymdeithas, nid ydym ni’n dangos digon o barch i’r syniad yma o ofalu am gyd-ddyn, ac rydym ni wedi colli hynny. Roeddem ni’n arfer, yn ein hysbytai, pan nad oeddem ni’n gallu gwneud yr holl fedrusrwydd yma, yr holl lawdriniaethau bendigedig, gofalu yn dyner am ein cleifion achos nid oedd yna ddim llawer o bethau eraill yr oeddem ni’n gallu eu gwneud, yntife. Ond nawr, rydym ni wedi anghofio am bwysigrwydd jest gofalu a bod yn dosturiol tuag at berson arall ac rydym ni wedi ei israddio fo’n gyfan gwbl ac wedi ei ddatganoli fo i bobl, falle, sydd â dim cymwysterau. Dim ond yn ddiweddar yr ydym ni wedi cael deddfwriaeth sydd yn golygu bod ‘care support workers’—gofalwyr, felly—yn mynd i gael eu cofrestru. Wel, ni fyddech chi’n dychmygu sefyllfa lle’r oedd nyrs nad oedd wedi ei gofrestru yn edrych ar eich ôl chi na meddyg nad oedd wedi cael ei gofrestru yn edrych ar eich ôl chi, ond rydym ni’n caniatáu gofalwr heb ei gofrestru i edrych ar eich ôl chi. Mae angen mynd i’r afael â’r holl system, a’i hailgynllunio hi.
Hefyd, mae’r agwedd tai, hynny yw ‘sheltered accommodation’, yn allweddol bwysig. Mae ishio newid y system—ie, bod yn ‘revolutionary’, fel buasai Suzy’n ei ddweud. Ac fel mae Eluned Morgan hefyd wedi dweud, mae ishio creu system newydd o ofal cymdeithasol sy’n mynd i’r afael â’r busnes tai hefyd, a ‘sheltered accommodation’—llwyth ohonyn nhw, rhwydwaith ohonyn nhw—fel ein bod ni’n gallu gofalu am ein henoed yn iawn yn y gymuned. Diolch yn fawr.