Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 7 Chwefror 2017.
A gaf innau hefyd gysylltu fy hun â’r cwestiwn a'r sylwadau a wnaed gan yr Aelod dros Ogledd Caerdydd? Gallai fod yn ddefnyddiol i’r Prif Weinidog roi iechyd ar yr agenda o ran trafodaethau â Llywodraeth y DU ar adael yr UE. A fyddai'r Prif Weinidog, yn y cyd-destun hwnnw, yn barod i godi’r mater o’r angen i Gymru allu penderfynu ar lefel y fisâu i gael eu cyflwyno i aelodau staff y GIG o dramor, o ystyried ein dibyniaeth fwy ar hyn o bryd ar aelodau staff y GIG o wledydd eraill? Hefyd, a wnaiff ef ofyn am sicrwydd, yn dilyn ymadawiad y DU o’r UE, nad yw’r gofynion i gael trwyddedu meddyginiaeth yn mynd i gael eu gwanhau pan fydd lobïwyr y cwmnïau fferyllol mawr yn gweld cyfle?