<p>Ystyriaethau Iechyd sy'n Effeithio ar y DU Gyfan </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:33, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig bod safonau diogelwch yn cael eu cynnal a bod cyffuriau yn cael eu profi'n briodol cyn iddyn nhw gyrraedd y farchnad. Bu sawl achos dros flynyddoedd lawer, o gyffuriau nad ydynt yn cael eu gwerthuso’n iawn—thalidomid yw'r un sydd fwyaf adnabyddus—ac mae'n hynod bwysig bod y rheoliadau presennol yn parhau i fod ar waith. Mae’n rhaid i mi ddweud, o ran y mater o fisâu gwaith rhanbarthol, mae hwnnw'n fater nad yw Llywodraeth y DU wedi ei wrthod hyd yma. Felly, mae'n fater diddorol. Ceir materion ymarferol y byddai angen eu datrys—nid oes dwywaith am hynny—ond mae'n rhywbeth yr ydym ni’n awyddus i ymchwilio iddo, yn sicr, ar hyn o bryd.