Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 7 Chwefror 2017.
Mae’n tynnu fy nghoes, does bosib? Mae ef yn cynrychioli plaid a oedd eisiau torri gwariant ar addysg yn y cyfnod cyn yr etholiad diwethaf. Roedd eisiau torri 12 y cant ar y gwariant ar addysg a chymryd arian oddi wrth ysgolion. Pe byddai ef wedi bod yn fy swydd i nawr, byddai ysgolion wedi colli cyllid, byddai gennym ni lai o athrawon a llai o lwyddiannau yn ein hysgolion. Rydym ni wedi cadw ein haddewidion ar ariannu ysgolion; rydym ni wedi gwneud yn siŵr bod ysgolion wedi cael eu hariannu'n briodol; rydym ni wedi gweld gwelliant yng nghanlyniadau TGAU; rydym ni’n gweld gwelliant yng nghanlyniadau Safon Uwch; gwelsom y canlyniadau categoreiddio o’r wythnos diwethaf, lle’r oedd ysgolion wedi gwella; rydym ni wedi darparu arian i helpu’r rhai hynny o gefndiroedd difreintiedig; rydym ni wedi helpu’r ysgolion hynny, yn ariannol, nad ydyn nhw’n perfformio fel y dylen nhw, i ddechrau gwella. Mae gennym ni hanes da o ran addysg ac nid y toriadau y byddai ef yn eu cynnig.