Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 7 Chwefror 2017.
Wel, yn amlwg, mae’n rhaid eich bod chi wedi bod yn byw mewn gwahanol fydysawd, oherwydd nid oedd gennym ni unrhyw gynigion ar gyfer toriadau ym maes addysg yn etholiadau diwethaf y Cynulliad. Yn rhyfedd braidd, mae’n rhaid eich bod chi wedi bod yn byw mewn gwahanol fydysawd. Yr hyn yr ydym ni wedi ei gael ers y Nadolig yw canlyniadau’r rhaglen ryngwladol asesu myfyrwyr; rydym ni wedi cael yr adroddiad Estyn sydd wedi dangos yn eglur bod addysg, yn ystod eich cyfnod chi, naill ai wedi gwaethygu neu wedi aros yn ei unfan. Mae hynny’n ffaith—adroddiad Estyn a chanlyniadau PISA yw hynny, Brif Weinidog. Mae hynny'n ffaith, ac roedd y dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor addysg yr wythnos diwethaf yn cyfeirio’n eglur at lai o athrawon a llai o arian ar gael mewn ysgolion yma yng Nghymru.
Felly, y broblem sydd gennych chi yn awr, o ran y newyddion, heddiw, yw bod y broses o gyflwyno’r cwricwlwm newydd hefyd yn peri problemau pan ddaw at arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol, yn ogystal â’r ffaith nad yw ysgolion arloesi yn gwybod yn union i ba gyfeiriad y maen nhw'n mynd o ran cyflwyno’r cwricwlwm newydd. Sut allwch chi roi unrhyw sicrwydd eich bod chi’n mynd i gywiro camgymeriadau eich tymor cyntaf yn y swydd, fel y gall disgyblion, athrawon a rhieni weld gwelliant gwirioneddol mewn ysgolion? Neu a ydym ni’n mynd i fod ar y daith ddirgel y dywedodd Gweinidog addysg yr Alban, John Swinney, y mae eu system nhw’n mynd arni ar hyn o bryd? A ydych chi’n barod i ganiatáu i ysgolion Cymru fynd ar daith ddirgel, Brif Weinidog?