Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 7 Chwefror 2017.
Mae’n bosibl y byddwch chi’n gwybod, Brif Weinidog, mai’r prif reswm y mae plant yn ymweld ag unedau brys y dyddiau yma yw oherwydd pydredd dannedd, ac felly mae’n gwbl allweddol bod gofal deintyddol da yn cael ei ddarparu ar eu cyfer nhw mewn oedran ifanc. Ond, wedi dweud hynny, mae plant ysgolion o ardal y Bala i gyrion Wrecsam wedi colli’r defnydd o ddeintydd symudol a oedd yn dod i’r ysgolion i ymweld â nhw oherwydd nad oedd dim arian yn y gyllideb i brynu cerbyd newydd. Nawr, mae yna gerbyd arall, mae’n debyg, ond mae hwnnw ar hyn o bryd yn gwasanaethu fel deintyddfa barhaol ym Mhwllheli oherwydd diffyg deintyddion yn y fan yna. Mae’r gwasanaeth penodol yna wedi gweld 4,000 o blant yn y flwyddyn ddiwethaf, a 500 o’r rheini ag angen triniaeth bellach. A ydych chi yn cytuno â fi fod colli’r gwasanaeth yna yn gwbl annerbyniol, a beth ŷch chi’n ei wneud i sicrhau ei fod e ar gael yn y dyfodol?