Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 7 Chwefror 2017.
Wel, rhywbeth dros dro yw hwn. Rwy’n gwybod bod y bwrdd iechyd yn edrych ar ffyrdd newydd o sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau yn y pen draw. Maen nhw yn edrych ar unedau ‘mobile’ o ardaloedd eraill er mwyn sicrhau hynny, ac maen nhw yn ystyried cyfleon ynglŷn â chyllido uned ‘mobile’ newydd er mwyn sicrhau bod hynny yn digwydd. Yn y cyfamser, mae yna ofal ar gael yng Nghorwen a Dolgellau, ond rhywbeth dros dro yw hwn, a’r gobaith yw y bydd y gwasanaeth yn ailddechrau yn y pen draw.