– Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2017.
Rwyf nawr yn galw ar Angela Burns i ofyn yr ail gwestiwn brys. Angela Burns.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod i'r Aelodau a yw'n bwriadu cymeradwyo cais Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am grant o rhwng £4 miliwn a £6 miliwn i ariannu'r gwaith o ddatblygu pencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin? EAQ(5)0119(EI)
Mae'n rhaid rhoi ystyriaeth drylwyr a chytbwys i'r manteision a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Mae ffyrdd y gallem gefnogi'r prosiect drwyddynt wedi eu hymchwilio yn drylwyr erbyn hyn, ac rwyf yn bwriadu galw’r tri Gweinidog sydd â diddordebau portffolio yn y mater hwn at ei gilydd yr wythnos nesaf er mwyn gallu dod i benderfyniad y mis hwn.
Rwy'n falch iawn o glywed hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd yr hyn sydd angen i ni ei gael, yn anad dim byd arall, yw goleuni ar y sefyllfa hon, ac wedyn, gobeithio, ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i Yr Egin. Mae hyn mor bwysig i Sir Gaerfyrddin. Rydym wedi sôn am y prosiect hwn erbyn hyn, mae’n rhaid ei bod ymhell dros 18 mis, y tu mewn a’r tu allan i'r Siambr hon. Mae wedi bod yn destun cefnogaeth enfawr bob amser, nid yn unig gan y gwleidyddion sy’n eistedd o amgylch yma, ond gan Gyngor Sir Caerfyrddin, gan S4C eu hunain ac, wrth gwrs, gan nifer fawr o fusnesau. Mae gennyf i fy hun nifer o lythyrau a ddaeth oddi wrth sefydliadau mawr a hoffai gymryd rhan yn y prosiect hwn i ddatblygu sylfaen ar gyfer y diwydiant gwasanaethau creadigol yn y gorllewin.
Mae dros 60 y cant o'r arwynebedd llawr a ragwelir eisoes wedi ei ymrwymo, neu wedi ei glustnodi fel mynegiadau o ddiddordeb. Mae’r posibilrwydd gennym i greu 850 o swyddi llawn-amser ledled yr ardal hon a chael effaith enfawr ar ein heconomi leol. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siwr y byddwch yn deall y wasgfa sydd ar Sir Gaerfyrddin. Tebyg iawn y byddwn yn colli nifer sylweddol o swyddi yn ein canolfan alwadau leol. Rydym eisoes wedi colli nifer sylweddol o swyddi drwy ad-drefniad HMRC, ac mae Sir Gaerfyrddin yn dref sydd angen y mathau hyn o swyddi medrus i allu symud ymlaen.
Er fy mod yn cytuno ein bod i gyd eisiau gwerth am arian, yr hyn y byddwn wir yn hoffi ei ddeall yw pa un a ydych chi’n dal i fod yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod mwy o gydraddoldeb ledled Cymru ar gyfer twf economaidd, gan fod llawer o ranbarthau gwledig a diwydiannol wedi eu gadael ar ôl, ac nid ydym yn dymuno i Sir Gaerfyrddin fod yn un ohonynt. Rwyf yn bryderus ynghylch y nodyn cyngor yr ydych wedi ei dderbyn oddi wrth banel y diwydiannau creadigol, ac roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi ehangu ychydig ar hynny, gan fod cadeirydd y panel yn ddiamwys iawn yn ei dystiolaeth i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig. Dywedodd, ac mae angen i mi ddyfynnu hyn:
Dylai S4C ei hun gael ei hadleoli i’r gogledd neu’r gorllewin. Byddai’r sefydliad yn elwa yn ddiwylliannol ar fod yn nes at ei chynulleidfa graidd. Byddai’r ardal a ddewiswyd yn gweld hwb economaidd enfawr a, chyn bwysiced â hynny, hwb economaidd yn y Gymraeg.
Nid yw hi’n eglur i mi, o'r ddealltwriaeth sydd gennyf o’r cyngor a gawsoch, o ran ei bod yn ymddangos bod ei farn ef wedi newid. Ac, os felly, Ysgrifennydd y Cabinet, efallai y rhowch wybod i ni beth yn eich tyb chi sydd wedi newid cymaint.
I gloi, fe hoffwn i ddweud nad oes, cyn belled ag y deallaf—ac rwyf wedi bod mewn cysylltiad â rhai o'r cwmnïau sydd wedi eu lleoli yn Abertawe—unrhyw glwstwr Cymraeg yn Abertawe, ac mae rhan o'r cyngor hwn yn ymddangos o fod wedi ei seilio ar hynny. Tybed a wnewch chi egluro hynny.
Ni allaf ei ddweud yn ddigon aml: byddai’r prosiect hwn yn bendant yn hynod bwysig i Sir Gaerfyrddin. Ac ydwyf, rwyf i'n mynd i ymladd dros fy ardal, a gwn y byddech yn disgwyl i mi wneud hynny, ond rydym wedi siarad am hyn. Mae S4C mor bwysig yn ddiwylliannol i Sir Gaerfyrddin. Mae’r gorllewin yn ardal â chanddi egni creadigol enfawr. Mae rhai o'r arlunwyr mwyaf a’r beirdd mwyaf o’r gorllewin, a byddai seilio diwydiant gwasanaeth creadigol, a llusgo, i fod yn syml, y dorf o Gaerdydd ar hyd y coridor, fel y gall ardaloedd fel ein hardal ni elwa, a byddai ymledu i Geredigion, i Sir Benfro, i Sir Gaerfyrddin—fel y byddem i gyd yn elwa arno—yn bwysig iawn. Ac a gaf i ofyn i chi roi esboniad pellach i ni. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn, a’i chymeradwyo am ei brwdfrydedd wrth iddi ddwyn y mater hwn i'n sylw? Byddwn yn cytuno'n llwyr bod gan Gaerfyrddin ac, yn wir, y gorllewin cyfan, lawer iawn i'w gynnig, nid yn unig i economi Cymru ond i bobl o'r tu allan i Gymru, fel cyrchfan wych i dwristiaid hefyd. Fe wn i hynny oherwydd fy mod i yno yn y gorllewin ddoe, yn agor cyfleusterau newydd yn yr economi ymweld.
Mae'r Aelod wedi mynegi ei barn gref yn y gorffennol o blaid y cynigion, ond mae'r Aelod hefyd wedi siarad yn y gorffennol am yr angen i sicrhau, fel Llywodraeth Cymru, ein bod yn defnyddio diwydrwydd dyladwy yn briodol ac yn drylwyr ar gyfer cynigion a ddaw ger ein bron sy’n gofyn am gefnogaeth gan y pwrs cyhoeddus.
Nawr, rwyf yn gwerthfawrogi uchelgais y brifysgol o fod yn awyddus i hybu datblygiad cymdeithasol a diwylliannol yn y rhanbarth, yn ogystal ag i annog datblygiad economaidd yn y rhanbarth, ac rwy'n awyddus i gefnogi unrhyw brosiect a allai ddarparu adnewyddiad economaidd a manteision diwylliannol mewn cymunedau ledled Cymru, ond mae'n rhaid i’r prosiect fod yn un y gellir ei gyflawni ac yn ymarferol. Ac felly rwyf wedi bod yn awyddus i ymchwilio i bob dull o gefnogi achos busnes boddhaol, y gellid ei gyflwyno mewn ffordd sy'n dangos hyfywedd ariannol, manteision economaidd, diwylliannol ac ieithyddol y datblygiad, ond sydd hefyd yn esbonio'r angen am ymyrraeth gan y sector cyhoeddus. Roedd yn rhaid i mi ystyried hefyd, fel y mae’r Aelod wedi ei amlygu, barn arbenigol, nid yn unig oddi wrth Banel y Sector Diwydiannau Creadigol, ond hefyd cyngor arbenigol o bob rhan o Gymru, a phryderon o bob rhan o Gymru, gan gynnwys y gogledd-orllewin. Wedi dweud hynny, rydym yn awr mewn sefyllfa lle y gallaf ddod â Gweinidogion at ei gilydd yr wythnos nesaf i drafod y mater, a gwneud penderfyniad y mis hwn.
Cyn belled ag y mae rhannu’r cyfoeth dan sylw, mae’r Aelod yn ymwybodol fy mod eisoes wedi datgan fy mwriad i ymweld â phencadlys y banc datblygu yn y gogledd, a cheir cyfleoedd ar y cyd â Cymru Hanesyddol i weld rhagor o fuddsoddiad yn cael ei ddarparu i'r rhanbarthau, ac, o bosibl, byddwn yn gweld beth fydd yn digwydd ar ôl i’r cynigion gael eu hystyried yn llawn. Ond un o'r argymhellion yw esblygiad Cadw, ac mae’n bur debyg y gallwn edrych ar fuddsoddi mewn un o’r rhanbarthau yn nhermau mwy o bresenoldeb Cadw. Rwyf yn mynd i ddefnyddio'r holl offerynnau sydd ar gael i ni, er mwyn sicrhau bod pob rhan o Gymru—pob rhanbarth, pob cymuned—yn rhannu’r cyfoeth a grëir.
A all yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau ei fod e wedi derbyn gohebiaeth gan TG4, sianel deledu Gwyddeleg, yn dadlau y bydd yna fudd economaidd a diwylliannol ieithyddol yn deillio o’r project yma, ar sail eu profiad nhw yn Galway, a’i fod e hefyd wedi gweld tystiolaeth o gwmnïau y tu fas i Gymru—ac, a dweud y gwir, y tu fas i Brydain—a fyddai â diddordeb adleoli yn Yr Egin, pan gaiff ei adeiladu? Ac a allai, yn olaf, gadarnhau bod Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cynnig telerau a fyddai’n golygu bod yna ddim grant parhaus—hynny yw, eu bod nhw’n derbyn yr arian ar sail ad-daladwy yn llwyr, benthyciad, a fyddai’n golygu wedi hynny bod yna broject gyda ni fan hyn a fyddai’n creu yn uniongyrchol 200 o swyddi, ac yn anuniongyrchol 650, heb geiniog o gost yn y pen draw i Lywodraeth Cymru? Os nad yw hynny yn cynrychioli gwerth am arian, mae’n anodd meddwl am unrhyw beth a fyddai yn.
Rwy’n sicrhau'r Aelod ein bod bellach wedi derbyn yr wybodaeth honno a phob gwybodaeth sy'n ymwneud â'r cynnig y gallwn ei ystyried erbyn hyn. Rydym hefyd wedi derbyn gohebiaeth gan TG4, yr ydym, wrth gwrs, wedi gallu ei ystyried, ynghyd â gohebiaeth gan bartneriaid posibl yn y prosiect. Ac o ran—yr oeddwn ar fai yn wir am beidio â chyffwrdd ar y pwynt a godwyd gan Angela Burns—datblygu canolfan Gymraeg yn Abertawe, mae hynny’n sicr yn rhywbeth y byddwn i'n dymuno ei drafod gyda’m cyfaill a’m cydweithiwr Alun Davies. Ac mae'n rhywbeth y gallwn edrych arno yr wythnos nesaf, rwy'n siŵr, pan fyddwn yn trafod prosiect Yr Egin.
Diolch i’r Ysgrifennydd am ei ymateb, a diolch i Angela hefyd am ddod â sylw’r tŷ yma i’r achos yma. Roedd yn siom i weld yr wythnos yma bod y panel diwydiannau creadigol wedi dweud y byddai datblygu Yr Egin yn tanseilio hwb cyfryngau tebyg yn Abertawe. Ond mae wedi dod i’n sylw i nad yw, er enghraifft, gyfarwyddwr Telesgop, sef y cwmni cyfryngau mwyaf sy’n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg o Abertawe, yn ymwybodol o unrhyw hwb sydd yn bodoli yn Abertawe. A phan rydym ni mewn amser o ansicrwydd, yn arbennig yn ein hardaloedd gwledig, wedi pleidlais Brexit, a phan fyddai’r project yma yn rhoi rhyw lygedyn o obaith i’r ardaloedd yma, a ydy’r Ysgrifennydd yn gallu dweud wrth y tŷ, a oes unrhyw asesiad wedi cael ei wneud o beth fyddai effaith peidio â datblygu Yr Egin yng Nghaerfyrddin?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Ac mae'n rhaid i mi bwysleisio fy mod i’n credu bod y cyngor gan banel y sector diwydiannau creadigol wedi ei ddarparu yn ddiffuant ac wedi ein helpu wrth i ni benderfynu ar y prosiect. Rwyf yn credu y bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan ystyried yr hyn sydd orau i Gaerfyrddin fel cymuned a’r diwydiannau creadigol o fewn y gymuned hefyd. Mae'n amlwg bod y prosiect yn cynnig potensial enfawr, ac rydym wedi bod yn awyddus i sicrhau y gall ac y gallai’r potensial ei gyflawni gan yr holl bartneriaid sy'n rhan o'r prosiect.
Rwy’n cymeradwyo Ysgrifennydd y Cabinet am ei gyflymder wrth benderfynu ar y mater hwn. A wnewch chi dderbyn gennyf i bod cefnogaeth drawsbleidiol i’r fenter hon a’n bod i gyd, yn y Cynulliad hwn, yn derbyn bod y de-orllewin wedi llusgo’n bell y tu ôl i’r rhan fwyaf o Gymru yn y blynyddoedd diwethaf o ran incwm? Mae Adam Price wedi gwneud cymwynas hynod bwysig â ni, rwyf yn credu, wrth dynnu ein sylw at hyn, nid yn unig heddiw yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ond hefyd ar achlysuron blaenorol pryd y dangosodd ein bod yn un o ranbarthau tlotaf gorllewin Ewrop. Nid wyf yn ystyried hynny yn anrhydedd i ni ymfalchïo ynddo. Mae prosiectau o'r fath yn hanfodol bwysig, nid yn unig ar gyfer y swyddi a ddaw ar unwaith yn eu sgil, ond hefyd ar gyfer newid holl naws y rhanbarth neu’r is-ranbarth, a fydd wedyn yn ei gwneud yn fwy deniadol i gwmnïau eraill leoli yno. Effaith y dynfa yw’r hyn sydd mor bwysig yn y fan yma.
Yr ail bwynt yr hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ymateb iddo yw, oes, wrth gwrs fod ganddo gyfrifoldebau i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n ddoeth, ond mae manteision diwylliannol ac ieithyddol ynddyn nhw eu hunain â gwerth y tu hwnt i arian. Ac rydym yn gwybod pa mor bwysig fydd y prosiect hwn o ran meithrin y Gymraeg, a’r effaith y bydd yn ei gael yn ehangach nag yn y rhanbarth ei hun. Felly, er nad wyf yn disgwyl iddo roi ateb sylweddol heddiw, gan y bydd yn rhaid iddo drafod gyda'i gydweithwyr ac eraill i ystyried y mater yn ei holl agweddau, ond fe ddylai o leiaf wyro at fod o blaid cydymdeimlo â’r cynnig hwn, ac nid bod ag ymagwedd calon-galed, Thatcheraidd ato.
Gall yr Aelod fod yn sicr na fyddaf yn cymryd ymagwedd calon-galed a Thatcheraidd at y prosiect hwn, ac er gwaethaf ei ymdrechion gorau, ni fyddaf yn dangos arwydd o benderfyniad y gellid ei wneud o fewn y 10 diwrnod nesaf. Ond mae'r Aelod yn iawn wrth ddweud bod heriau strwythurol hanesyddol i’w cael y mae angen eu goresgyn, nid dim ond yn y gorllewin ond mewn rhannau eraill o Gymru lle mae angen i ni weld cynnydd mewn gwerth ychwanegol gros a chynhyrchiant, ac yn lefelau’r sgiliau y mae pobl wedi eu cyrraedd. Gan hynny, rwyf yn canmol y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth heddiw am lansio'r rhaglen prentisiaeth newydd i greu 100,000—fel lleiafrif—prentisiaethau o ansawdd da ar gyfer pob oedran, a fydd, wrth gwrs, o fudd mawr i rannau o Gymru fel Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, lle mae rhaglenni prentisiaeth a rennir yn cael ei ddefnyddio gan lawer o bobl, a lle y gwn am nifer o gyflogwyr sydd ar hyn o bryd yn bwriadu derbyn mwy o brentisiaid. Yr allwedd i fagu economi ranbarthol yw sicrhau crynhoad a darpariaeth sgiliau priodol, ac rwyf wedi bod yn awyddus iawn, wrth graffu ar y prosiect penodol hwn, i wneud yn siŵr y bydd y partneriaid sydd wedi mynegi eu diddordeb i ymuno yn Yr Egin yn symud ymlaen â’r diddordeb hwnnw, ac y byddwn yn gweld crynhoad, o fewn y canolbwynt, o arbenigwyr yn y diwydiannau creadigol sy'n gallu cynnig y cyfleoedd am swyddi a addawyd.
Dyna’r union bwynt, Weinidog, os caf ddweud. Beth rydym ni’n deisyfu ei weld yn y gorllewin yw buddsoddiad a dyfodol llewyrchus i’n pobol ifanc ni, fel bod y plant sydd nawr yn mynd i ysgol Llangennech i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn gwybod bod swyddi da i gael hefyd yn y gorllewin iddyn nhw. Rydym ni eisiau gweld gan y Llywodraeth yr un math o hyblygrwydd tuag at gyllido’r project yma ag yr ydych chi wedi’i ddangos tuag at gyllido ac ymwneud â chynllun megis Cylchdaith Cymru ym Mlaenau Gwent. Mae yna agwedd gyllidol y medrwch chi ei chymryd, ac rydych chi newydd gadarnhau bod modd ailedrych ar y cynllun yma i ailbroffilio’r buddsoddiad ariannol fel bod y risg i’r trethdalwr mor isel ag sy’n bosibl, ond sy’n caniatáu i’r cynllun fynd yn ei flaen. A wnewch chi gadarnhau dau beth, felly? Yn gyntaf oll, a wnewch chi gadarnhau bod y cyngor rŷch chi wedi’i dderbyn gan y panel ymgynghorol ar ddiwydiannau creadigol, yn eich barn chi, yn gyngor cwbl ddiduedd? Dywedoch chi fod y cyngor ‘in good faith’, ac rwy’n derbyn hynny, ond hoffwn i wybod gennych chi, ar gofnod, eich bod chi’n derbyn y cyngor ei fod yn ddiduedd llwyr.
Yr ail gwestiwn, felly, rydych chi newydd drafod—rwy’n credu, yr wythnos diwethaf, neu’r wythnos gynt, o bosib—gyda nifer o Aelodau’r Cynulliad fan hyn ynglŷn â’r fargen dinas ranbarth, y ‘city deal’ ar gyfer bae Abertawe, mewn cyfarfod gyda nifer ohonom ni. Rwy’n ddiolchgar am hynny. Fe drafodwyd Yr Egin yn y cyfarfod hwnnw yng nghyd-destun pecyn, ac roeddech chi’n awyddus iawn ein bod ni, fel Aelodau Cynulliad, yn dadlau dros y pecyn cyfan a ddim, yn eich geiriau chi, yn ‘cherry-pick-o’ gwahanol agweddau ohono fe. Yn yr un ffordd, a wnewch chi dderbyn bod pecyn y ‘city deal’ yn cynnwys Yr Egin fel pecyn cyfan, ac felly, gobeithiaf yn fawr, yr wythnos nesaf, ar ôl i chi wneud yr arsylwi sydd angen ei wneud ar unrhyw gynllun o’r fath, y byddwch chi’n cefnogi’r cynllun fel bod y ‘city deal’ fel pecyn cyfan hefyd yn cael cefnogaeth gan Lywodraeth San Steffan?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud fy mod, unwaith eto, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, yn falch bod SA1 a cham 2 o brosiect Yr Egin wedi sicrhau cefnogaeth bwrdd y ddinas-ranbarth ar gyfer datblygu?
O ran darparu cyfleoedd, yn enwedig i bobl ifanc, mae’r sector diwydiannau creadigol wedi dangos ei fod yn fwy llwyddiannus yng Nghymru o ran ei dwf ac o ran ehangu cyfleoedd i bobl ifanc nag mewn unrhyw ran arall o'r DU ar wahân i Lundain. Mae hynny oherwydd ein bod wedi tyfu diwydiant i’w eiddigeddu yng Nghymru. Rydym hefyd wedi magu’r sgiliau a'r arbenigedd sydd yn angenrheidiol i ddenu prif gynyrchiadau drama teledu. Ond rwy'n benderfynol o wneud yn siŵr nad ydym yn gorffwys ar ein bri a’n bod yn dal ati i gyflwyno mwy o bobl i'r diwydiannau creadigol er mwyn ateb y galw. Y galw yw’r broblem sydd gennym ni ar hyn o bryd mewn gwirionedd, o ystyried y diddordeb gan gynhyrchwyr teledu yn arbennig, heb anghofio’r presenoldeb a'r diddordeb y mae cynhyrchwyr ffilm yn ei ddangos yng Nghymru, ond yn enwedig o ran dramâu teledu, ac yn gynyddol o ran animeiddio. Bydd rhagor o gyfleoedd i bobl fynd i mewn i'r diwydiant. Bydd mwy o gyfleoedd i bobl ddysgu sgiliau newydd er mwyn mynd i mewn i'r diwydiant. Felly, rwy'n benderfynol o wneud yn siŵr, wrth inni graffu ar brosiect Yr Egin, ein bod yn ffyddiog y bydd yn cyflenwi’r cyfleoedd hynny.
O ran y cyngor a gafwyd gan banel y diwydiannau creadigol, fel y dywedais wrth Eluned Morgan, rwyf yn ffyddiog ei fod wedi ei roi yn ddiffuant. Wedi dweud hynny, nid wyf yn credu bod dyfalu ynghylch unrhyw wrthdaro buddiannau o ddefnydd o gwbl. Yr hyn sy'n bwysig yw fy mod i, ac ein bod ninnau fel Llywodraeth Cymru, yn ystyried pob tystiolaeth, yn archwilio'r cynigion yn drylwyr, ac yna’n gwneud penderfyniad ar sail yr hyn sydd orau i bobl Caerfyrddin a’r diwydiant.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.