Part of the debate – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 7 Chwefror 2017.
Diolch i Andrew R.T. Davies am y cwestiynau yna. Ynglŷn â’ch pwynt cyntaf, wrth gwrs, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi rhoi sicrwydd i’r Cynulliad hwn a’r Aelodau yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae ef a'i swyddogion yn gweithio'n galed i sicrhau y gallwn ni gael y rhybudd cynnar hwnnw. Newydd fynd i mewn i fis Chwefror ydym ni, fel y dywedwch, a gwn eu bod yn bwriadu cyhoeddi'r ffyrdd y bydd busnesau lleol yn gallu manteisio ar yr hyn a fydd yn gyfran ychwanegol bwysig iawn o arian ar ben y cyllid trosiannol a gyhoeddwyd, wrth gwrs, yr hydref diwethaf. Felly, gallaf eich sicrhau bod hynny yn symud ymlaen.
O ran eich ail bwynt, rwyf braidd yn ddryslyd am eich ail bwynt, oherwydd ei bod yn anochel bod gan Lywodraeth Cymru bolisi i ddatganoli pryd bynnag a lle bynnag y bo’n bosibl, y swyddi y mae gennym unrhyw reolaeth arnyn nhw, yn ogystal ag annog o ran y sectorau. Soniasoch am y sector gwasanaethau ariannol, ac rwy’n credu bod croeso mawr i’r newyddion am leoli’r banc datblygiad mewn rhan arall o Gymru, gan gysylltu’n agos iawn, wrth gwrs, â’n holl wasanaethau a busnesau ariannol. Ond byddwn i’n gobeithio y byddech chi’n gwerthfawrogi mai’r wobr enfawr a enillodd Cymru drwy gael Aston Martin i Sain Tathan, i Gymru, yw'r hyn y dylem fod yn ei groesawu. Rwy'n falch iawn bod yr Aelod wedi gwneud y pwynt hwnnw mewn gwirionedd.