5. 3. Datganiad: Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau ar y Galon

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:21, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Gwn eich bod chi’n hoffi gofyn llawer o gwestiynau, ac nid oes gennyf unrhyw broblem â hynny; rwy’n bwriadu ceisio ateb bob un o fewn yr amser penodedig.

Rwyf yn croesawu eich cydnabyddiaeth ar y dechrau o swyddogaeth aelodau staff wrth gyflawni gwelliannau real iawn gan GIG Cymru. Gwn, bob hyn a hyn, fod hanfod y ddadl ynglŷn ag iechyd yn ymwneud â'r heriau sydd gennym, ac rwy’n cydnabod bod gennym ni heriau, ond mae hwn yn faes lle y bu gwelliant gwirioneddol a sylweddol, a mwy o fywydau yn cael eu hachub o ganlyniad uniongyrchol i'r hyn y mae'r GIG yn ei wneud.

Yn gyntaf, af i’r afael â’r pwynt ynglŷn â sgiliau achub bywyd, oherwydd mewn gwirionedd, roeddwn wedi dangos, yn y—. Bydd gennym gynllun sy'n mynd i gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill. Mae’r cynllun hwnnw yn cael ei ddatblygu gan amrywiaeth o wahanol bobl o ran sut yr ydym yn cyflwyno mwy o sgiliau achub bywyd ac yn adeiladu ar y llwyddiant presennol, yn ogystal â deall lle y mae’r diffibrilwyr hynny a'r bobl sydd wedi’u hyfforddi i'w defnyddio. Felly, mae mwy o waith sy'n mynd rhagddo a byddaf yn lansio’r cynllun hwnnw. Rwy’n edrych ymlaen at ei weithredu yn ystod gweddill y tymor hwn gyda phartneriaid ac i asesu ei effaith unwaith eto ar gyflawni rhagor o welliant.

Ynglŷn â’ch cwestiwn ynghylch sut y bydd yr £1 miliwn yn cael ei ddefnyddio, nid yw'n mynd i gael ei ddyrannu ar sail fformiwla ar draws byrddau iechyd. Caiff yr £1 miliwn, yr un fath â phob cynllun cyflawni arall, ei ddyrannu mewn gwirionedd gan y grŵp gweithredu yn erbyn ei flaenoriaethau. Dylech allu gweld y rheiny yn y cynllun, ond rwyf wedi nodi rhai ohonynt. Felly, dyna sut y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio.

Rwy’n credu y bydd rhan o'r hyn y byddant yn ei wneud yn ateb rhai o'ch cwestiynau eraill ynglŷn â mesurau, gan eu bod yn ystyried treialu camau cydrannol i geisio deall, ar wahanol adegau, wrth i chi gael eich trin, pa mor hir y mae pobl yn aros ar hyd y llwybr cyfan hwnnw, er mwyn nodi lle y ceir rhwystrau neu anghydraddoldeb posibl. Rwy'n credu bod hynny'n ddefnyddiol iawn. Dylai hynny roi trosolwg diddorol iawn i glinigwyr, yn ogystal â'r cyhoedd, ac ar gyfer y ffordd y byddwn ni wedyn yn datblygu ac yn darparu ein gwasanaethau.

Efallai i gychwyn na fydd hi’n hawdd cael gwybod am ble yr ydym ni’n aros a’r pethau nad ydyn ni’n hapus â nhw. Ond mae'n rhaid i ni allu deall sut yr ydym ni’n cyflawni’r gwelliant hwnnw, ac mae hynny’n cael ei sbarduno gan glinigwyr i ddeall lle y mae’r amseroedd aros cydrannol hynny'n bodoli, a’r hyn y gallan nhw ei wneud wedyn i'w lleihau, yn y ffordd y mae bron pob un o’r elfennau yr ydym ni’n sôn amdanyn nhw wedi deillio o’r sgwrs rhwng clinigwyr, y trydydd sector, a chleifion.

Mae’r un peth yn wir o ran y datblygiadau mewn cardioleg cymunedol sy'n cael eu cyflwyno. Ac, yn arbennig, yn fy marn i, ynglŷn â’ch pwynt cyffredinol am anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, a'r negeseuon sydd gennym o ran hynny mewn cysylltiad â heriau iechyd y cyhoedd, nid dim ond ynghlwm wrth glefyd y galon, ond amrywiaeth eang o gyflyrau yr ydym ni i gyd yn gyfarwydd â nhw: y gallu i wneud rhywbeth ynghylch cyfraddau ysmygu, er mwyn parhau i weld y rheiny’n gostwng, i wneud rhywbeth ynghylch ein defnydd o alcohol, ond hefyd deiet ac ymarfer corff, oherwydd gwyddom fod gordewdra yn broblem enfawr. Felly, os na allwn ni wneud rhywbeth ynglŷn â deiet ac ymarfer corff, yna byddwn ni’n cael ein rhwystro rhag gallu gwneud unrhyw gynnydd pellach ar leihau achosion o glefyd y galon o fewn y boblogaeth.

Dyna hefyd pam y cychwynnodd y rhaglen asesu risg cardiofasgwlaidd yn Aneurin Bevan a Chwm Taf, yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig—a dargedwyd yn fwriadol felly gan ein bod wedi cydnabod yr anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol sy'n bodoli. Dyna hefyd pam mae’r rhaglen bellach yn cael ei chyflwyno yn ardal ABM a'r ardaloedd mwy difreintiedig yn gyntaf. Y rheswm dros hyn yw ein bod ni'n cyrraedd y bobl hynny nad ydyn nhw’n mynd at y gwasanaethau iechyd yn aml, pobl sydd yn y grwpiau risg uchel hynny, ac os nad ydyn nhw’n cael eu gweld a'u trin ac yn cael eu hannog mewn gwirionedd i wneud dewisiadau ynglŷn â’u hiechyd eu hunain mewn ffordd wahanol, yna nid ydym yn debygol o weld eu cyflyrau meddygol sylfaenol sydd eisoes yn bodoli, na’r risg ychwanegol y maen nhw’n ei ddatblygu, yn cael eu herio.

Dyna pam mae hi’n fwriadol yn cael ei thargedu mewn ffordd sy'n ceisio cael gwared ar yr elfen feddygol sydd ynghlwm wrth hynny, i geisio annog pobl yn eu cymunedau eu hunain i ymgymryd â gwahanol fathau o weithgarwch, ac mae'n pwysleisio’r pethau pwysig fel rhagnodi cymdeithasol a'r ffordd y gallwn ni wneud gweithgarwch a dewisiadau iachach yn haws, heb fod yn feirniadol. Mae'n ymwneud mewn gwirionedd â sut yr ydych chi’n cynnal sgwrs â rhywun yn eu cymuned y maen nhw’n teimlo’n gyfforddus ynddi, a’u bod nhw’n cydnabod y budd gwirioneddol iddyn nhw o wneud newid. Felly, mae llawer i'w wneud, ond mae llawer i fod yn gadarnhaol amdano hefyd, yn fy marn i.