5. 3. Datganiad: Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau ar y Galon

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:35, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am y sylwadau yna. Rwy’n cydnabod eich diddordeb cyson ym maes deiet, iechyd, ac ymarfer corff. Nid dim ond ynghylch diabetes y mae hyn, gan fod llawer o'r ffactorau risg yr ydym yn sôn amdanynt ym maes diabetes yn ffactorau risg mewn amrywiaeth o gyflyrau eraill, gan gynnwys clefyd y galon a chyflyrau ar y galon hefyd.

Rydym yn cydnabod yr effaith sylweddol y mae deiet ac ymarfer corff yn ei gael ar amrywiaeth eang o gyflyrau, ac rwyf innau hefyd yn cydnabod y gwaith y mae Bwyd Caerdydd yn ei wneud i gyrraedd nifer o bobl. Ond pan fyddaf yn disgrifio'r rhaglen asesu risg cardiofasgwlaidd, mae honno'n ymestyn yn fwriadol at bobl nad ydynt yn cymryd rhan mewn gwasanaethau arferol. Dyna’r llwyddiant yr ydym wedi ei weld yng Nghwm Taf ac Aneurin Bevan, ac rwy’n disgwyl y byddwn yn gweld mwy o lwyddiant yn ardal Abertawe Bro Morgannwg hefyd.

Ac felly rydym yn disgwyl i'r rhaglen gael ei chyflwyno yn llwyddiannus, i ymestyn at y bobl hynny nad ydynt yn cymryd rhan yn eu dewisiadau gofal iechyd eu hunain yn awr, er gwaethaf yr holl dystiolaeth sy'n bodoli. Mae ystod gyfan o bethau, ond mae'n debyg mai astudiaeth Caerffili sy’n dal i fod yr hyn sy'n dweud wrthym am effaith hirdymor gwneud dewisiadau iechyd gwahanol. Ac felly dyna pam y mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno, oherwydd ei bod yn mynd at y bobl hynny lle’r ydym yn cydnabod bod anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol ac yn cydnabod eu bod yn annhebygol o ymgysylltu â’r negeseuon iechyd cyhoeddus ehangach hynny, lle bynnag y maent. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn defnyddio ysgolion fel sbardun gwirioneddol—ysgolion cynradd yn enwedig, lle mae rhieni yn fwy tebygol o ymgysylltu. Ond rwy’n cydnabod, hyd yn oed yn yr ysgol gynradd, mae'n dal i fod yn fwy tebygol mai menywod a fydd yn ymgysylltu â bywyd yr ysgol.

A gyda’r llwyddiant yr ydym wedi’i weld, rydym mewn gwirionedd yn gweld cyfraddau amrywiol, rhwng 50 y cant a 70 y cant, o ymgysylltu â'r rhaglenni risg cardiofasgwlaidd yng Nghwm Taf ac Aneurin Bevan. Mae hwnnw’n welliant sylweddol; yn ymgysylltiad sylweddol o bobl na fyddai yno fel arall. Dyna pam—rwyf wedi’i bwysleisio yn y datganiad—y byddwch yn gweld mwy o hynny’n digwydd ledled y wlad.

Ac yn yr holl bethau hyn, mae angen i ni ddeall pam y mae'r rhain wedi bod yn llwyddiannus. Ac nid dim ond model o weithwyr cymorth gofal iechyd sy'n gweithio mewn lleoliadau gwahanol yw hwn—ond y cwestiwn yw a yw’n dal yn mynd i weithio mor llwyddiannus wrth iddo gael ei gyflwyno? Rwy'n hyderus y dylai weithio yn bron pob un o'n lleoliadau, mewn gwirionedd, ond, unwaith eto, mae’n rhaid i ni gymryd cam yn ôl a dysgu bob amser: a yw’n dal i fod y dull cywir, a oes mwy y gallwn ei wneud, a sut mae'n cyd-fynd â’n hymyrraethau eraill, a gwaith arall ar draws y Llywodraeth? Felly nid dim ond iechyd ym mhob polisi, ond yr holl bolisïau mewn iechyd hefyd, a sut yr ydym yn gweld hynny’n cael ei gyflawni ar draws yr holl Lywodraeth a'n partneriaid.