5. 3. Datganiad: Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau ar y Galon

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 7 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 3:37, 7 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Er gwaethaf datblygiadau diweddar mewn gofal coronaidd, mae clefyd y galon yn parhau i fod yn un o'r lladdwyr mwyaf yng Nghymru. Y mis hwn, bydd tua 750 o bobl yn colli eu bywydau i glefyd cardiofasgwlaidd; bydd 720 yn mynd i'r ysbyty oherwydd trawiad ar y galon; ac, yn anffodus, bydd 340 o'r rheini yn marw. Hefyd, y mis hwn, bydd tua 16 o fabanod yn cael eu geni gyda nam ar y galon. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, mae croeso mawr i’r cynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau ar y galon.

Fel y mae’r cynllun yn amlygu, rydym wedi cyrraedd pwynt lle mae angen i ni gyflawni nid gwelliant graddol, cynaliadwy, ond newid ar unwaith a sylfaenol o ran cyflymder. Mae'r cynllun cyflawni yn briodol yn rhoi llawer o bwyslais ar atal. I leihau nifer yr oedolion sy'n ysmygu, mae'r cynllun yn nodi bod yn rhaid inni sicrhau bod pob cysylltiad â'r gwasanaethau iechyd a gofal yn cael ei ddefnyddio i atal nifer y bobl sy’n dechrau ysmygu ac yn annog pobl i roi'r gorau i ysmygu. Er gwaethaf blynyddoedd o dynnu sylw at beryglon ysmygu, mae nifer yr ysmygwyr yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel. Ysgrifennydd y Cabinet, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i'r defnydd o e-sigaréts fel ffordd o leihau’r niwed gan fwg tybaco ymhlith y 19 y cant o oedolion yng Nghymru sy'n parhau i ysmygu?

O ran y prif ffactor ffordd o fyw arall o ran clefyd y galon, y diffyg gweithgarwch corfforol, a deiet gwael, mae dros hanner y boblogaeth sy'n oedolion yng Nghymru naill ai'n rhy drwm neu'n ordew. Mae mynd i'r afael â'r broblem hon yn llawer anoddach na lleihau niwed o ganlyniad i ysmygu. Felly, pa ystyriaeth y mae eich Llywodraeth wedi’i rhoi i sicrhau bod rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd yn canolbwyntio ar addysgu ein pobl ifanc sut i fwyta'n iach, a sut i fyw'n iach?

Wrth gwrs, byddwn ni ond yn rhwystro hyn a hyn o glefyd y galon, ac felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym ddulliau o ganfod a thrin amserol ac effeithiol. Y tro diwethaf i’r targed 95 y cant i drin cleifion y galon o fewn 26 wythnos ar ôl atgyfeiriad gael ei gyflawni oed ym mis Ebrill 2012. Rydym ni’n croesawu'r cynnydd sydd wedi ei wneud, a hefyd y staff sy'n gweithio bob awr o’r dydd a’r nos i sicrhau ein bod yn cael y gwasanaeth gorau posibl. Mae angen lleihau nifer y bobl sy'n aros mwy na 26 wythnos ac mae angen gwneud hynny ar frys. Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw'r prif ffactorau wrth fethu'r targed atgyfeirio i driniaeth? A yw o ganlyniad i brinder o bobl, neu a yw'n dioddef effaith y gostyngiad yn nifer y gwelyau sydd ar gael?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae Sefydliad Prydeinig y Galon wedi amlygu bod nifer fawr o bobl yn y DU yn byw gyda genyn diffygiol sy'n eu rhoi mewn perygl o ddatblygu clefyd coronaidd y galon, neu hyd yn oed farwolaeth sydyn. Bob wythnos, mae tua 12 o bobl, a oedd yn ymddangos yn iach, o dan 35 oed yn marw o farwolaeth sydyn yn gysylltiedig â’r galon. Ysgrifennydd y Cabinet, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i wella ymchwil i farwolaeth gardiaidd sydyn ac a ydych chi’n bwriadu datblygu sgrinio priodol ar lefel y boblogaeth ar gyfer y cyflyrau hyn ar y galon? Rwy’n diolch i chi, unwaith eto, am eich datganiad ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i wella gofal y galon yng Nghymru. Diolch.