Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 8 Chwefror 2017.
Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, cyhoeddwyd categorïau ysgolion Cymru gennych yn ddiweddar. Ni fydd categoreiddio’r ysgolion o ddefnydd oni bai bod y wybodaeth yn cael ei defnyddio’n brydlon ac yn effeithiol er mwyn helpu ysgolion i wella; fel arall, bydd plant yn parhau i ddihoeni mewn ysgolion nad ydynt yn perfformio cystal â’r safon. A ydych yn barod i roi sicrwydd personol i’r Cynulliad ac i rieni plant mewn ysgolion sydd angen cymorth, yn enwedig y rhai yn y categori coch, y byddwch yn cymryd cyfrifoldeb personol am gefnogi a chynorthwyo’r ysgolion hynny i godi i statws gwyrdd?