Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 8 Chwefror 2017.
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Mae’r newyddion da yn sgil cyhoeddi’r data categoreiddio ysgolion yr wythnos diwethaf yn dangos bod nifer yr ysgolion sy’n symud allan o’r categori coch yn gwella. Mae gennym lai o ysgolion yn y categori coch nag erioed o’r blaen, a deillia hynny o waith caled ac ymroddiad penaethiaid, athrawon dosbarth unigol, a chyrff llywodraethu sy’n cefnogi’r ysgolion hyn, yn ogystal â’n gwasanaethau gwella rhanbarthol. Ar gyfer pob ysgol a gafodd ei gosod yn y categori coch, rwyf wedi gofyn i’r consortia rhanbarthol roi cynllun ysgrifenedig i mi ynglŷn â’r hyn y byddant yn ei wneud i gynorthwyo’r ysgol honno. Prif ddiben ein proses o gategoreiddio ysgolion yw nodi pa ysgolion sydd angen fwyaf o gymorth, a bydd cynllun yn cael ei gyflwyno i mi’n bersonol gogyfer â phob ysgol a osodwyd yn y categori coch.