<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 8 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:52, 8 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Nid oes gennyf y data wrth law, ond rwy’n hapus i ddarparu’r data hwnnw i’r Aelod. Fel y dywedais wrth ateb cwestiwn Darren Millar, rwy’n disgwyl i’n holl ysgolion fod yn ysgolion rhagorol lle bynnag y mae plentyn yn digwydd bod. Mae’r data o’r broses o gategoreiddio ysgolion yn dangos bod nifer yr ysgolion sy’n mynd i gategori melyn neu wyrdd yn gwella. Mae mwy o blant Cymru yn mynd i fwy o ysgolion gwyrdd nag ers i’r system hon ddechrau, ac ni fyddaf yn gorffwys nes ein bod yn gweld cynnydd ym mhob un o’n hysgolion. Mae’r system hon yn caniatáu i bob ysgol fod yn wyrdd os yw eu perfformiad yn cyrraedd y safon honno, ac rwy’n siŵr y buasai’r penaethiaid ym mhob un o’n hysgolion yn awyddus i anelu at hynny er mwyn eu plant.