Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 8 Chwefror 2017.
Iawn. Diolch. Ar ôl gofyn am faint y broblem, mae’n anghywir i drin unrhyw un, wrth gwrs, yn enwedig plant, fel ystadegau. Felly, hoffwn glywed peth sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet y bydd unrhyw ysgol sydd angen cymorth yn cael ei thrin yn gyfartal o gymharu ag ysgolion eraill sydd angen help, waeth beth yw maint yr ysgol.