Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 8 Chwefror 2017.
Wel, Mike, roeddwn yn falch iawn o weld ysgol newydd Burlais a’r gwahaniaeth y mae’r adeilad yn ei wneud i addysg plant yn yr ardal. Rwyf hefyd yn falch iawn o dderbyn gwahoddiad i ymweld ag ysgol Blaenymaes. Fy niweddar nain, Mary Hall, oedd yr uwch gogydd yn Ysgol Blaenymaes am flynyddoedd lawer. Fe bliciodd lawer o datws ar gyfer y plant yn ei hamser. Felly, mae’r cyfle i ymweld â Blaenymaes yn un rwy’n ei groesawu’n fawr iawn. Rwy’n falch o gadarnhau hefyd fod gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i ddatblygu band B y rhaglen addysg ac ysgolion yr 21ain ganrif, ac mae ton nesaf y buddsoddiad hwn i fod i ddechrau yn 2019 a rhedeg dros y cyfnod o bum mlynedd nes 2024.