Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 8 Chwefror 2017.
Fe sonioch am y blaengynllun yno, ond yn ôl swyddogion, mae cynllun datblygu lleol cyngor Abertawe, sydd braidd yn ddadleuol, rhaid cyfaddef, yn debygol o gael ei ohirio yn awr, ac mae rhan o raglen ysgolion yr 21ain ganrif yn anelu i fynd i’r afael â chapasiti, wrth gwrs, mewn ysgolion sy’n orlawn a’r rhai sydd â lleoedd gwag. Os caiff y cynllun datblygu lleol ei ohirio, pa effaith y credwch y gallai hyn ei chael ar y cynlluniau ar gyfer y safleoedd a chapasiti ysgolion yn Abertawe? Mae’n ymddangos i mi ei fod yn awdurdod lleol sy’n dal i geisio deall y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, heb sôn am unrhyw beth arall, a hynny er y gallant ddefnyddio’r cynllun datblygu lleol fel cyfle i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn ogystal â fel bygythiad. Diolch.