<p>Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 8 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:56, 8 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae’n siomedig y bydd oedi ar y cynllun datblygu lleol, gan mai un o egwyddorion craidd y rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif yw sicrhau bod gennym y nifer cywir o leoedd ysgol yn y lle iawn. Yn aml, mae’r cynigion i ddatblygu cytref neu dref neu bentref penodol yn allweddol yn y broses o gymeradwyo grant i ysgol 21ain ganrif, a allai fod â chapasiti mwy nag sydd ei angen ar hyn o bryd, oherwydd ein bod yn gwybod bod tai’n mynd i gael eu hadeiladu. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio’n agos iawn gyda chyngor Abertawe i sicrhau na fydd oedi yn eu hadran gynllunio yn effeithio ar ein gallu i wneud yr hyn yr wyf am ei wneud, a’r hyn y mae’r Aelod am ei wneud, rwy’n siŵr, sef gweld buddsoddiad parhaus yn ysgolion Abertawe.