Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 8 Chwefror 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae mater ffioedd dysgu myfyrwyr a threfniadau ariannu addysg uwch wedi mynnu cryn sylw. Fodd bynnag, mae gan addysg bellach ran yr un mor bwysig os nad yn bwysicach o ran darparu sgiliau i economïau lleol a’u dysgwyr, ac yn haeddu sylw cyfartal. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y bydd gostyngiad parhaus yn y cyllid ar gyfer sgiliau lefel is yn peryglu’r gallu i ddarparu’r dysgu sylfaenol sy’n cynnal ein cymunedau yng Nghymru?