Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 8 Chwefror 2017.
Diolch i chi am hynny. Nid wyf yn ystyried bod unrhyw elfen o’r sector yn bwysicach nag unrhyw un o’r lleill, a mynegais hynny’n eithaf clir yn fy natganiad ar Hazelkorn yr wythnos diwethaf. Pwrpas yr awdurdod addysg drydyddol newydd yn rhannol fydd sicrhau y gallwn gael parch cydradd rhwng y gwahanol fathau o astudio, a bydd yr adnoddau a fydd yn helpu i yrru nid yn unig cyfleoedd bywyd yr unigolion sy’n astudio, ond a fydd hefyd yn hybu economi Cymru, yn sylfaenol i’w gwaith wrth iddynt gomisiynu rhaglenni astudio, dysgu seiliedig ar waith a’r ddarpariaeth sgiliau.