– Senedd Cymru ar 8 Chwefror 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cwestiwn brys, ac rwyf wedi dewis un o dan Reol Sefydlog 12.66. Rwy’n galw ar Adam Price i ofyn y cwestiwn brys.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw, bellach, yn bwriadu cefnogi datblygu Cylchffordd Cymru, yn dilyn adroddiadau bod yr Heads of the Valleys Development Company wedi sicrhau'r cyllid preifat sydd ei angen ar gyfer ei adeiladu? EAQ(5)0120(EI)
Ydy, mae Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd wedi cyflwyno cynnig newydd ar gyfer Cylchffordd Cymru. Byddwn yn awr yn ystyried y cyflwyniad yn fanwl ac yn cychwyn proses drwyadl o ddiwydrwydd dyladwy. Dylai’r Aelodau fod wedi derbyn datganiad ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg bellach.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb, a hefyd am y datganiad ysgrifenedig a ddosbarthwyd ychydig funudau yn ôl. Ar ôl blynyddoedd lawer o aros, rwy’n gobeithio bod y datblygiad diweddaraf hwn yn dangos ein bod drwy’r chicane olaf ar y darn syth olaf. Ond os yw’n gallu, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau fod y ddau faen prawf, y ddwy amod a osododd, yn gyntaf ym mis Gorffennaf y llynedd mewn perthynas â’r lefel 50 y cant o warant sector cyhoeddus, ac yn fwy diweddar, yr angen am ddogfennau amodau buddsoddwr a enwir, bellach wedi’u bodloni? Ac o ran y broses diwydrwydd dyladwy, a yw’n gallu dweud wrthym pwy fydd yn cynnal y diwydrwydd dyladwy? A fydd yn cael ei wneud yn allanol? Mewn perthynas â’r meini prawf, a fyddant yn dilyn y weithdrefn diwydrwydd dyladwy safonol o ran y meini prawf i asesu’r prosiect, neu a fydd yna feini prawf penodol ar gyfer y prosiect? Ac o ystyried y ffaith ei fod yn benderfyniad, os yw’n gadarnhaol, sy’n anochel o rwymo gweinyddiaethau yn y dyfodol, a fydd copi o’r diwydrwydd dyladwy yn cael ei rannu ar sail cyfrinachedd masnachol â llefarwyr pob plaid a gynrychiolir yn y Cynulliad? Yn hynny o beth, rwy’n hapus i gofnodi bod fy mhlaid yn credu bod gan hyn botensial enfawr i gymunedau Blaenau Gwent, i Gymoedd de Cymru yn ehangach, ac yn wir, i Gymru gyfan, a byddwn yn falch iawn o gefnogi’r prosiect wrth symud ymlaen, yn amodol ar fodloni’r gofynion arferol mewn perthynas â diwydrwydd dyladwy.
Ac yn olaf, wrth ddisgwyl penderfyniad terfynol cadarnhaol, a yw wedi cyfarwyddo ei dîm mewnfuddsoddi i ddechrau gwaith paratoi, a chwmpasu’r galw posibl am fewnfuddsoddiad yn y parc technoleg a fydd yn elfen allweddol o ddatblygiad Cylchffordd Cymru?
A gaf fi ddiolch i Adam Price am ei gwestiwn a dweud—fe geisiaf osgoi trosiadau moduro heddiw—ei bod hi’n ymddangos, yn ôl fy swyddogion, fod y meini prawf—y ddau bwynt a nododd yr Aelod—wedi’u bodloni, felly dyna pam rydym mewn sefyllfa heddiw i fwrw ymlaen â phroses diwydrwydd dyladwy ac ystyried y cynigion sydd o’n blaenau? Ni ddylai neb ofni diwydrwydd dyladwy a wneir ar ran Llywodraeth Cymru neu gan Lywodraeth Cymru. Rwy’n rhagweld y bydd y broses diwydrwydd dyladwy yn digwydd yn allanol. Yn bersonol, yn y rôl hon, nid wyf erioed wedi dod ar draws sefyllfa lle rwyf wedi rhannu manylion cyfrinachedd masnachol ynglŷn â diwydrwydd dyladwy gyda llefarwyr y gwrthbleidiau, ond rwy’n fodlon edrych ymhellach ar gwestiwn yr Aelod, a dod yn ôl ato gydag ateb. Mae’n ddigon posibl y byddai angen i ni gael caniatâd gan Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd hefyd.
O ran yr ystyriaethau a fydd yn ffurfio’r broses diwydrwydd dyladwy, bydd hyn yn cael ei wneud dros yr wythnosau sydd i ddod pan fyddwn wedi cael yr holl wybodaeth angenrheidiol. Bydd yn cynnwys yr holl wybodaeth sy’n cael ei darparu i Lywodraeth Cymru. Bydd yr holl wybodaeth honno’n cael ei hystyried. Byddwn yn dilyn y broses sy’n arferol ar gyfer prosiect o’r maint hwn, ac yn y datganiad ysgrifenedig, rwyf wedi amlinellu rhai o’r pwyntiau a fydd yn cael eu harchwilio yn rhan o’r broses honno.
O ran y galw gan fuddsoddwyr posibl ar gyfer y parc technoleg, wel, wrth gwrs, bydd hyn yn rhan o’r broses diwydrwydd dyladwy ac asesiad o’r galw tebygol a’r tebygolrwydd y ceir clwstwr modurol. Ni allaf roi unrhyw fanylion am y cynllun busnes diweddaraf a gyflwynwyd, yn anffodus, felly ni allaf roi unrhyw fanylion ar hyn o bryd ynglŷn â’r union gynigion sy’n ymwneud â chlwstwr modurol posibl, ond bydd hynny’n rhan o’r broses diwydrwydd dyladwy.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n meddwl mai eich penderfyniad i roi terfyn amser o bythefnos i Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd bythefnos yn ôl—bythefnos yn ôl i heddiw, neu bythefnos i ddoe—oedd y peth hollol gywir i’w wneud a dywedais hynny’n glir yn y datganiad busnes ddoe. Rwyf hefyd yn cytuno â chi ar fater diwydrwydd dyladwy. Mae’n amlwg erbyn hyn y bydd hynny’n chwarae rhan hanfodol yn y rhan nesaf o’r broses hon.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n amlwg bod Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd—. Wel, mae’n ymddangos yn amlwg yn awr fod ganddynt yr arian yn ei le i symud ymlaen ar y pwynt hwn, ac mai’r rhan cyllid preifat o’r pecyn hwn yw’r rhan fwyaf o’r fargen ariannol lawn gyda thanariannu Llywodraeth Cymru yn dod i mewn fel rhan lai. A gaf fi ofyn i chi, yn gyntaf oll, a ydych yn gwbl fodlon fod y cyllid preifat yn ei le, ac os felly—ac rwy’n credu eich bod—pa mor gyflym y bydd y Llywodraeth mewn sefyllfa i roi’r golau gwyrdd i’r prosiect hwn, cyn belled â bod y gwiriadau diwydrwydd dyladwy yn eu lle? Oherwydd rwy’n deall bod y cyllid preifat dan sylw o fath a all fod yn hylifol, ac o ystyried eich bod yn teimlo bellach fod y rhan hon o’r fargen wedi’i bodloni, buasai’n drist pe bai’r prosiect hwn yn cael ei golli o ganlyniad i oedi diangen o hyn ymlaen.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, a chroesawu’r ffaith hefyd ei fod wedi cydnabod bod y terfyn amser o bythefnos yn arwyddocaol ac yn bwysig? Penderfynais gyhoeddi’r terfyn amser o bythefnos am nifer o resymau. Un oedd ein bod yn sicr y buasai Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd, yn ôl ym mis Gorffennaf, yn gallu dod atom o fewn mater o wythnosau gyda chynnig diwygiedig. Felly, roeddwn yn teimlo yn y flwyddyn newydd ei bod hi’n bwysig gosod terfyn amser. Ond yn anad dim, teimlwn fod pobl Glynebwy wedi dangos cryn amynedd wrth aros i’r cynnig gael ei gyflwyno. A theimlwn, yn y flwyddyn newydd, fod angen rhoi’r terfyn amser i’r cwmni. Mae bellach wedi cael ei gyflwyno mewn pryd. Rydym yn edrych ar y manylion cyllid preifat o dan gytundeb atal dadlennu. Rwy’n ofni na allaf wneud sylw pellach ar yr archwiliad sydd ar y gweill o’r cyllid preifat.
O ran y broses diwydrwydd dyladwy a fydd yn cychwyn wedi i ni gael yr holl wybodaeth, bydd yn ein galluogi i ddechrau’r broses honno. Rydym yn disgwyl iddi ddigwydd a dod i ben mewn oddeutu pedair i chwe wythnos, sy’n ffrâm amser arferol ar gyfer prosiect o’r maint hwn, a bydd y Cabinet yn gallu ei ystyried wedyn.
Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi cefnogi’r cynnig hwn yn gryf ar hyd yr amser, ac er fy mod yn deall yr angen am wneud diwydrwydd dyladwy priodol mewn cynigion o’r fath, mae hwn yn brosiect trawsnewidiol. Os yw’n llwyddo, yna mae’n mynd i weddnewid economi Cymru yn gyfan gwbl, yn sicr yn ne-ddwyrain a chanolbarth Cymru. Rwy’n credu ei bod yn bwysig nodi nad oes unrhyw arian cyhoeddus yn mynd tuag at y datblygiad hwn mewn gwirionedd, ar wahân i’r £9 miliwn sydd eisoes wedi’i ymrwymo ar gyfer cronfeydd datblygu, ond y cyfan y gofynnwyd amdano yw gwarant o lai na hanner y cyfalaf preifat sy’n mynd i gael ei fuddsoddi. Telir £3 miliwn y flwyddyn i’r Llywodraeth am y warant honno mewn gwirionedd, felly mae’r Llywodraeth yn cael rhywbeth yn gyfnewid, ac ni ddaw’r warant ei hun yn weithredol mewn gwirionedd hyd nes yr adeiladir yr asedau ar y safle. Felly, bydd yna sicrwydd cadarn o ran sut a phryd yr hawlir ar y warant, a gobeithiwn na ddaw i hynny. O ganlyniad, rwy’n credu bod hon yn fargen dda iawn i Lywodraeth Cymru ac i bobl Cymru, ac felly dylai roi ystyriaeth mor deg â phosibl iddi.
Hoffwn ddiolch i Neil Hamilton am ei gwestiwn, ac am gydnabod bod y fargen sydd ar y bwrdd yn sicr yn well na’r un a gyflwynwyd yn ôl ym mis Gorffennaf. Rwy’n credu bod hynny’n cyfiawnhau’r sefyllfa. Rwy’n cydnabod eu bod wedi wynebu llawer o feirniadaeth yn ôl ym mis Gorffennaf, ond mae’n cyfiawnhau’r safbwynt bryd hynny, pan gyflwynwyd cais i ni am warantau o 83 y cant i gyd, sy’n fwy na £100 miliwn yn rhagor mewn gwarantau na’r hyn yr ydym wedi gallu ei sicrhau gyda’r fargen hon. Fodd bynnag, mae angen diwydrwydd dyladwy, yn ôl yr arfer, fel ym mhob prosiect o’r math hwn, i roi hyder i ni fod y buddsoddiad, y warant y gellid hawlio arni, yn rhywbeth y mae’r trethdalwr yn gyfforddus ag ef, rhywbeth yr ydym ni’n gyfforddus ag ef. Ac fel y dywedais yn fy ateb i Adam Price, ni ddylai unrhyw fuddsoddwr ofni’r broses diwydrwydd dyladwy.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.