– Senedd Cymru am 2:38 pm ar 8 Chwefror 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl ar gynigion deddfwriaethol Aelodau. I gynnig y cynnig cyntaf o’i fath, Suzy Davies.
Cynnig NDM6222 Suzy Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil yn ymwneud â sgiliau achub bywyd.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) creu hawl statudol i bobl gael addysg a hyfforddiant sgiliau achub bywyd sy'n briodol i'w hoedran ar amrywiol adegau yn eu bywydau
b) llunio cyfrifoldebau statudol i sicrhau:
i) bod hyfforddiant sgiliau achub bywyd yn cael ei ddarparu;
ii) bod diffibrilwyr yn cael eu darparu mewn lleoliadau priodol;
iii) bod unigolion sydd wedi cael hyfforddiant achub bywyd ar gael mewn swyddi allweddol mewn gwasanaethau cyhoeddus (yn hytrach na pherson cymorth cyntaf penodedig); a
iv) bod deunyddiau cymorth cyntaf sylfaenol ar gael i'r cyhoedd mewn adeiladau cyhoeddus, ac nid ar gyfer y staff yn unig.
c) creu ffyrdd o wella a gorfodi o ran yr uchod.
Diolch, Lywydd. A gaf fi hefyd ddiolch i’r Cynulliad am y cyfle i fod yr Aelod cyntaf i ddefnyddio’r darn newydd hwn o fusnes? Hoffwn ddiolch hefyd i fy nghyn-reolwr swyddfa, Mark Major, a ddaeth â’r pwnc i fy sylw pan ddeuthum yn Aelod Cynulliad.
Dechreuodd ymgyrch chwe blynedd gyda datganiad barn yn 2011, yn gofyn am gefnogaeth i wneud addysgu sgiliau achub bywyd brys yn orfodol yn yr ysgol ac yna cafwyd dadl fer pan siaradodd yr Ysgrifennydd addysg presennol, yn ogystal ag aelodau o Blaid Cymru a’r Blaid Lafur, o’i blaid. Daeth cefnogaeth gan bob plaid yn y pedwerydd Cynulliad, ac mae’n ymddangos bod pob plaid yn y pumed Cynulliad hefyd yn cefnogi’r egwyddor. Hoffwn ddiolch i bawb ohonoch sydd eisoes wedi cyflwyno eich cefnogaeth i’r cynnig heddiw sy’n ymwneud yn ei hanfod â’r hawl i gael hyfforddiant i achub bywyd. Wrth wneud hynny, rydych yn cefnogi egwyddor y bu ymladd drosti ers nifer o flynyddoedd.
Mae cyflwyno sgiliau achub bywyd gorfodol ar gwricwlwm yr ysgol yn rhywbeth a gefnogir gan Sefydliad Prydeinig y Galon, Ambiwlans Sant Ioan, y Groes Goch Brydeinig, ond hefyd y Coleg Parafeddygon, Coleg Brenhinol y Meddygon, Perygl Cardiaidd ymhlith yr Ifanc, Addysg Gardiofasgwlaidd Prydain, Y Gymdeithas Addysg Gorfforol, Undeb Cenedlaethol yr Athrawon—yn Lloegr, beth bynnag—Syndrom Marwolaeth Arhythmig Sydyn y DU, Coleg Brenhinol y Nyrsys, Cynghrair Arrhythmia y DU, Cymdeithas Feddygol Prydain, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, y Gymdeithas Ffibriliad Atrïaidd, Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, y Gymdeithas Frenhinol er Achub Bywydau a llawer o rai eraill. Rwyf wedi cael negeseuon e-bost o gefnogaeth a chefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol i hyn dros y 48 awr ddiwethaf. Mae wedi bod yn gwbl anhygoel.
Rydych hefyd yn cefnogi dymuniadau rhieni a phobl ifanc. Canfu Sefydliad Prydeinig y Galon fod 86 y cant o rieni yn y DU eisiau gweld sgiliau argyfwng ac achub bywyd yn cael eu haddysgu yn yr ysgolion—mae’n 88 y cant yng Nghymru mewn gwirionedd. Roedd 78 y cant o’r plant eu hunain yn awyddus i’w ddysgu yn yr ysgol, ac mae 75 y cant o athrawon, sydd eisoes â chwricwlwm gorlawn, eisiau i hyn gael ei ddysgu yn ein hysgolion. Rydych hefyd yn cefnogi dymuniadau’r AS Llafur, Teresa Pearce. Cafodd Ms Pearce gefnogaeth drawsbleidiol i’w Bil ar thema debyg, ond cafodd y ddadl ei therfynu heb bleidlais—proses nad oes gennym mohoni yma—gan yr AS Ceidwadol drwgenwog, Philip Davies. Yn yr ymgyrch barhaus hon, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed pa mor gyfforddus y byddech o fod ar yr un ochr i’r ddadl â’r AS Ceidwadol drwgenwog, Philip Davies.
Felly, pam deddfwriaeth? Wel, yn gyntaf oll, rwyf am longyfarch yr holl ysgolion sydd wedi rhoi o’u hamser yn wirfoddol ac wedi defnyddio amser ysgol i roi cyfle i’w plant achub bywydau. Hoffwn longyfarch yr elusennau—rwyf wedi crybwyll rhai ohonynt yn barod—y gwasanaethau cyhoeddus, y cadetiaid milwrol, Heartstart a Reactive First Aid, sy’n gallu darparu hyfforddiant o bob math, ac elusennau fel Cariad sy’n helpu i ddarparu diffibrilwyr. Pob clod i Shoctober, Defibruary, Save a Life September, Staying Alive—mae pawb ohonoch yn cofio Vinnie Jones yn hwnnw—diffibrilwyr mewn hen flychau ffôn, a’r holl ymgyrchoedd ymwybyddiaeth. Mae hwn yn waith ardderchog a hebddo, buasai ein cyfraddau goroesi gwael ar gyfer trawiad ar y galon y tu allan i amgylchedd yr ysbyty hyd yn oed yn waeth. Bydd tua 90 y cant o’r dioddefwyr hyn yn marw—a mwy o bosibl, yn ôl un ffynhonnell—ac er y bydd gan y rhan fwyaf o’r dioddefwyr hyn rywun gyda hwy pan fyddant yn dioddef, byddant yn dal i farw. Heb gylchrediad gwaed, chwe munud yn unig y mae’n ei gymryd i ddioddefwr gael niwed parhaol i’r ymennydd. Ar ôl 10 munud, mae’n rhy hwyr yn y bôn. Felly, oni ddylai plentyn dyfu i fyny gyda’r hawl i wybod sut i ymyrryd—sut i helpu i achub bywyd?
Yn 2013, 20 y cant yn unig o blant Cymru a Lloegr a oedd wedi cael o leiaf un wers sgiliau achub bywyd yn ystod eu taith ysgol ar ei hyd, ac nid yw un wers yn agos at fod yn ddigon yn hyn o beth. Gallwch ddweud hynny am mai 4 y cant ohonynt yn unig a oedd â’r hyder i ymyrryd—4 y cant. Eto i gyd, dywedodd 94 y cant o blant uwchradd y byddent yn fwy hyderus pe baent yn cael hyfforddiant wedi’i ddiweddaru yn gymharol gyson. Rwy’n dymuno’r gorau i gynllun cardiaidd y Llywodraeth, ond os na allwch warantu cyfranogiad y boblogaeth gyfan, bydd cymhwysedd a hyder, cam un y cynllun, yn methu oherwydd natur ar hap digwyddiadau o ataliad ar y galon. Ac ar y sail eich bod yn dweud ein bod yn dal i fod angen ymarfer mapio i wybod pwy sy’n darparu adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR); fod yn rhaid i chi fynd i dudalen dau ar Google i ddod yn agos at restr y gwasanaeth ambiwlans o ddiffibrilwyr; a bod newidiadau cwricwlwm Donaldson beth amser i ffwrdd, nid wyf yn meddwl bod gennym amser i ewyllys da a gwaith da roi’r newid hwnnw i ni ar lefel y boblogaeth gyfan.
Bydd 8,000 o bobl yng Nghymru yn cael trawiad ar y galon y tu allan i leoliad ysbyty eleni, a bydd y rhan fwyaf ohonynt yn marw oherwydd anwybodaeth neu ofn y rhai a fydd yno pan fydd yn digwydd. Felly, pwy sydd â’r niferoedd, y cymhwysedd a’r hyder ar lefel y boblogaeth gyfan mewn sgiliau cymorth cyntaf—ac nid yw’n golygu CPR yn unig? Wel, gadewch i ni gael golwg ar y sgriniau: Norwy, 95 y cant; Yr Almaen, 80 y cant; Awstria, 80 y cant; Gwlad yr Iâ, 75 y cant. Mae Ffrainc hyd yn oed ar 40 y cant. Nawr, sut y digwyddodd hynny? Oherwydd rhwymedigaeth ddeddfwriaethol i gael hyfforddiant sgiliau achub bywyd gorfodol ar wahanol gyfnodau ym mywydau’r dinasyddion hynny. Yn Nenmarc a’r Swistir, ni allwch gael eich trwydded yrru hyd yn oed oni bai eich bod wedi gwneud yr hyfforddiant hwn. A pha wledydd sydd â’r gyfradd uchaf o bobl yn goroesi trawiad ar y galon y tu allan i’r ysbyty? Mae rhai ohonynt ymhell dros 50 y cant—sy’n cymharu â’n 3 i 10 y cant ni. Wel, rwy’n siwr y gallwch ddyfalu.
Nid yw’r cynnig deddfwriaethol hwn yn ymwneud yn unig ag ataliad ar y galon, CPR a diffibrilwyr; rwyf am i’n plant dyfu i fyny gyda’r hyder i ymyrryd pan fyddant yn gweld person sy’n gwaedu, yn anymwybodol, yn cael ffit, yn tagu, sydd wedi cael sioc drydanol, neu’n dangos arwyddion eu bod yn boddi. Mae cynllun newydd yn y rhan dlotaf o ogledd Bangladesh wedi gweithredu ar y pwynt olaf hwn, ac mae plant naw oed yno yn gorfod dysgu CPR a sut i achub bywyd mewn achos posibl o foddi. Ac argymhellion yw’r rhain, wrth gwrs. Nid ydynt wedi cael eu datblygu’n llawn, ond yn sicr nid ydynt yn anodd na’n ddrud i’w cyflwyno. Nid ydynt yn gwrthdaro ag awgrym yr Athro Donaldson y dylid defnyddio deddfwriaeth i ddiffinio set eang o ddyletswyddau. Gallech ddechrau ymgynghori ar y rhain yfory. Felly, Aelodau, rwy’n credu bod hwn yn achlysur lle y mae model Norwy yn bendant yn briodol i Gymru, ac rwy’n argymell y cynigion hyn i chi ac i bobl Cymru.
A gaf i atgoffa Aelodau taw cyfraniad o dair munud yn unig yw’r eitem yma? Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ganmol Suzy Davies am ei blaengarwch, ac rwy’n llwyr gefnogi’r bwriad o gael dadebru cardio-pwlmonaidd ar gwricwlwm yr ysgol ac iddo gael ei gydnabod a’i hyfforddi’n fwy eang ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol? Hefyd, mae angen diffibrilwyr ym mhob man a phobl hyderus nad oes arnynt ofn eu defnyddio. Oherwydd dyna rwy’n ei weld, fel meddyg teulu—rwyf wedi bod yn ddigon anffodus i wneud CPR ar sawl achlysur dros y blynyddoedd, yn llwyddiannus o bryd i’w gilydd, ond yn aflwyddiannus gan amlaf, a chyda’r defnydd o ddiffibrilwyr, yr hyn a welwch yw bod llawer o bobl mewn sefyllfa y tu allan i’r ysbyty yn ofni defnyddio diffibriliwr. Peidiwch ag ofni: gyda diffibrilwyr modern, ni allwch wneud unrhyw niwed. Mae rhywun sydd wedi cwympo yn sgil ataliad ar y galon o’ch blaen wedi marw i bob pwrpas—ni allwch wneud dim ond lles, hyd yn oed os yw’r gyfradd lwyddiant yn ddim ond wyth y cant. Dyna wyth y cant o bobl a fuasai newydd farw. Felly, fy neges yw: ewch amdani, bobl, peidiwch â bod ofn ac ni allwch wneud unrhyw niwed; dim ond trawsnewid bywyd y gallwch ei wneud. Diolch yn fawr.
Rwy’n falch iawn o gefnogi’r fenter hon. Hoffwn siarad am gryfder y sector gwirfoddol yn y maes hwn, oherwydd rwy’n credu bod cymaint i elwa arno sy’n gwneud y cynnig hwn hyd yn oed yn fwy hyfyw o ran gwella polisi yn y maes hwn. A gaf fi siarad am St John Cymru yn benodol? Rwy’n falch o fod yn gysylltiedig â’r elusen wych honno, ac rwy’n gwisgo eu tei yn wir, fel y mae arweinydd sylwgar iawn yr wrthblaid newydd weld. Os caf sôn am un neu ddau o’u cynlluniau: anelir y cynllun achubwyr bywyd ifanc at blant mewn rhaglenni ar ôl ysgol, ac mae’n aml yn cael ei gyflwyno gan athro sydd wedi cael hyfforddiant penodol. Amcangyfrifodd St John fod oddeutu 130,000 o ddamweiniau yn digwydd mewn ysgolion yn y DU, ac maent yn cynnig cwrs undydd ar gyfer athrawon, er mwyn iddynt allu helpu plant sydd wedi dioddef damwain, fel maes arall lle y gwneir gwaith hanfodol. Ac mae hefyd yn cynnwys uwch-dechnoleg—ceir ap dwyieithog am ddim ar gymorth cyntaf; peidiwch â gofyn i mi sut rydych yn ei ddefnyddio, ond rwy’n siŵr y bydd y rhai sy’n gwybod yn gallu rhoi cyngor.
St John yw un o’r nifer o elusennau a sefydliadau anllywodraethol sy’n gwneud gwaith gwerthfawr yn y maes hwn. Rwy’n meddwl bod llawer ohonom yn ymwybodol o raglen hyfforddiant CPR Sefydliad Prydeinig y Galon, sydd ar gael yn y gweithle. Rydym wedi ei chael yma yn y Cynulliad. Fe gefais yr hyfforddiant, Lywydd, ac rwy’n falch o ddweud bod y dymi wedi goroesi. Ac rwy’n meddwl y dylai pawb ohonom gael yr hyfforddiant; mae’n wirioneddol bwysig. Mae’r ffigurau a welsom yn gynharach ar y graffiau bar yn siarad drostynt eu hunain, oherwydd os cewch eich hyfforddi ar gyfer y gweithle, bydd gennych y sgiliau hynny hefyd os ydych chi gartref, os ydych ar drafnidiaeth gyhoeddus, beth bynnag. Mae’n hanfodol. Unwaith eto, mae’r angen i osod diffibrilwyr mewn prif fannau cyhoeddus yn wirioneddol bwysig. Ac os ydych wedi eich hyfforddi a’ch bod mewn canolfan siopa, neu ble bynnag, byddwch yn un o’r bobl a allai ei ddefnyddio. Ac fel y dywedodd Dai Lloyd mor ingol, os nad ydych yn ymyrryd, mae’r canlyniad yn eithaf pendant. Mae angen i chi fod yn ddigon hyderus i ymyrryd. Felly, rwy’n meddwl y buasai’r Bil hwn o fudd mawr i bobl Cymru, Lywydd, pe gellid ei gyflwyno.
Hoffwn ddiolch i Suzy am gynnig ein bod yn deddfu i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael y sgiliau sylfaenol i achub bywyd. Ddoe, buom yn trafod y cynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau ar y galon yn y Siambr hon, a thynnu sylw yn ystod y ddadl at y ffaith y bydd 720 o bobl yn mynd i’r ysbyty bob mis yng Nghymru ar ôl cael trawiad ar y galon ac yn anffodus, bydd 340 o’r bobl hynny’n marw. Heb CPR a diffibrilio o fewn y 10 munud cyntaf, mae’r gobaith o oroesi trawiad ar y galon bron yn ddim. O ystyried bod dros 80 y cant o achosion o ataliad ar y galon yn digwydd yn y cartref a bod nifer yr ymatebion ambiwlans categori coch sy’n cymryd mwy nag wyth munud i gyrraedd, mae’n hanfodol fod gennym bobl wrth law gyda’r sgiliau i achub bywyd. Mae’n cymryd munudau i ddysgu CPR, a gellir dysgu sut i ddefnyddio diffibriliwr mewn un bore. Er gwaethaf hyn, faint ohonom sy’n gallu dweud yn onest fod gennym y sgiliau i achub bywyd?
Rwy’n llwyr gefnogi ymgyrch Suzy, a hoffwn weld pob plentyn yng Nghymru yn treulio un bore y flwyddyn yn dysgu sut i gyflawni CPR. Gallem hefyd archwilio opsiynau eraill ar gyfer gwella nifer y bobl sy’n meddu ar sgiliau achub bywyd. A ddylai CPR a chymorth cyntaf mewn argyfwng fod yn rhan o’r broses o ddysgu gyrru? A ddylai cael y sgiliau hyn fod yn ofyniad cyn cael trwydded cerbyd gwasanaeth cyhoeddus? A allwn fynnu bod pob aelod o’r staff rheng flaen mewn adeiladau cyhoeddus yn gallu gwneud CPR ac yn gwybod sut i ddefnyddio diffibriliwr? Dyma’r pethau sy’n rhaid i ni eu hystyried os ydym o ddifrif ynglŷn â sicrhau bod gan gymaint o bobl â phosibl y sgiliau sydd eu hangen arnynt i achub bywyd. Rydym yn ffodus iawn yn yr adeilad hwn gan fod llawer o’r staff diogelwch a’r tywyswyr wedi’u hyfforddi mewn cymorth cyntaf, mae gennym nifer o ddiffibrilwyr allanol awtomatig, ac mae ein staff wedi ymateb i argyfyngau ar, ac oddi ar yr ystad. Nid yw pobl mor ffodus mewn rhannau eraill o Gymru.
Rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi galwad Suzy er mwyn sicrhau bod hyfforddiant sgiliau achub bywyd ar gael i bawb a bod diffibrilwyr allanol awtomatig ar gael yn ehangach yng Nghymru. Trwy gymryd y camau bach hyn, gallwn sicrhau bod y gobaith o oroesi trawiad ar y galon, boed yn y cartref neu mewn man cyhoeddus, yn gwella’n fawr. Buaswn hefyd yn annog pawb yn y Siambr hon i ddysgu CPR os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes. Diolch yn fawr.
Mewn ychydig iawn o eiriau mi wnaf innau ddweud fy mod i yn cefnogi'r cynnig yma. Rydym ni yn barod wedi clywed am bwysigrwydd cymorth cyntaf mewn sefyllfaoedd brys. Rydym ni’n gwybod pa mor bwysig, wrth gwrs, ydy hi fod offer fel ‘defibrillators’ a ‘kits’ cymorth cyntaf a ballu ar gael.
Mae’r arolwg diweddar gan Sant Ioan—rydym ni wedi clywed amdanyn nhw yn barod—yn dweud stori glir wrthym ni, sef bod 69 y cant o blant ysgol yn dweud na fydden nhw ddim yn gwybod sut i drin aelod o’r teulu neu gyfaill iddyn nhw pe baen nhw’n ffeindio eu hunain mewn sefyllfa lle byddai angen hynny; mae 72 y cant o ddisgyblion yn dweud y byddent yn dymuno cael y sgiliau hynny; ac 83 y cant yn dweud y bydden nhw yn llawer fwy hyderus yn gweithredu i drio achub bywyd rhywun, neu roi gofal i rhywun, pe baen nhw wedi cael yr addysg.
A gaf i roi sylw i sylwadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru wrth y BBC, yn dweud bod disgyblion yn cael dysgu am dechnegau gofal brys yn barod fel rhan o addysg bersonol a chymdeithasol. Mae’r sylwadau hynny yn awgrymu i mi, rydw i’n meddwl, fod yna gryn wahaniaeth rhwng yr hyn mae’r Llywodraeth yn meddwl sy’n digwydd a’r hyn sy’n digwydd go iawn yn ein hysgolion ni. Mae ymchwil yn dangos bod yna anfodlonrwydd ynglŷn â’r hyn sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd, ac yn ogystal â bod y plant eu hunain yn cyfaddef ac yn dweud nad oes ganddyn nhw'r sgiliau a’u bod nhw’n dymuno cael y sgiliau, mae athrawon hefyd, yn ôl arolygon ac ymchwil, yn dweud bod ganddyn nhw ddiffyg hyder yn y sgiliau y maen nhw i fod i’w pasio ymlaen i’r plant.
Ond, gadwech i mi gloi efo’r cwestiwn yma i’w ofyn i unrhyw Weinidog sydd yn gwrando, ac unrhyw swyddog hefyd: pe baech chi allan yn mynd am dro rhyw ddiwrnod ac yn dioddef ‘cardiac arrest’ ac mai’r unig berson sydd gerllaw ydy person ifanc 15 oed, a fyddai’n well gennych chi bod y person 15 oed hwnnw wedi mynd drwy system anfoddhaol o ddysgu rhai sgiliau fel rhan o addysg bersonol a chymdeithasol, neu a fyddai’n well gennych chi bod y person 15 oed hwnnw wedi mynd drwy system addysg sydd wedi dysgu'r sgiliau iawn, a hynny wedi ei seilio mewn deddfwriaeth? Rydw i’n gwybod beth ydy’r ateb o fy rhan i, a dyna pam rwy’n cefnogi’r cynnig deddfwriaethol yma.
Torrais y rawnwinen yn ofalus a bwydais un hanner yn ofalus iawn i fy mhlentyn annwyl. Sugnodd y cynnwys ohoni, ac aeth ymlaen i dagu ar y croen. Roeddwn mewn arswyd pur. Aeth fy hyfforddiant CPR—a ddysgais pan oeddwn yn ddeifiwr achub, yn y dyddiau pan oeddwn yn iau ac yn fwy heini—allan o fy mhen yn llwyr. Diolch byth, roedd fy ngŵr yn bresennol ac fe achubodd fywyd ein merch fach. Heddiw, mae hi’n 14. Gallaf ddweud wrthych yn awr, nad yw yn dysgu, ac nid yw wedi dysgu unrhyw sgiliau achub bywyd yn yr ysgol, ond mae hi wedi eu dysgu gan ei mam a’i thad, ac fe fydd hi’n tyfu’n oedolyn na fydd yn mynd i banig, o bosibl, os yw’r un peth yn digwydd iddi hi—pe bai ei phlentyn yn tagu ar rawnwinen.
Rwy’n llwyr gefnogi’r ymgyrch hon, fel mam ac fel rhiant. Rwyf hefyd yn ei chefnogi o safbwynt addysgol, oherwydd credaf yn gryf iawn fod angen i ni fagu plant gwydn. Mae hon yn ddadl y bydd Lynne Neagle yn ei chyflwyno i’r Siambr yn nes ymlaen heddiw. Pan fyddant yn yr ysgol, po fwyaf o sgiliau bach y gallwn eu rhoi iddynt, y mwyaf o ddarnau bach a gaiff eu hychwanegu at y pos jig-so, mae’n adeiladu hyder, yn adeiladu gwydnwch, yn adeiladu penderfyniad. Credaf fod hyn yn rhywbeth y gallwn yn hawdd ei ychwanegu at y cwricwlwm. Rwyf wedi clywed y cwynion, ‘Mae’r cwricwlwm eisoes yn llawn iawn’. Ond mae’n ymwneud â chynnwys blaenoriaethau ac mae’n ymwneud â glynu go iawn at chwe maes newydd Donaldson, a byddai hyn yn gweddu’n dda iawn i’r chwe maes hwnnw. Mae’n sgil y gallwch ei ddefnyddio dro ar ôl tro ar ôl i chi ei ddysgu—ond i chi beidio â mynd i banig. Ond rwyf am bwysleisio bod angen i ni gynnwys ailaddysgu cyson hefyd. Mae wedi bod yn amser hir ers i mi wneud CPR ar neb ac ni fyddai ots gennyf ddysgu eto. Rwy’n credu bod hwn yn syniad gwych ac rwy’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn rhoi cyfle i Suzy Davies fwrw ymlaen â hyn a’i archwilio’n fwy manwl. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.
Diolch i chi, Lywydd. Rwy’n falch o gael cyfle i nodi eto yr hyn yr ydym eisoes yn ei wneud i wella lefelau goroesi yn sgil trawiad ar y galon y tu allan i’r ysbyty, sy’n cynnwys llawer o’r agweddau yng nghynnig Bil Aelod preifat Suzy Davies. Fodd bynnag, er fy mod yn cefnogi uchelgais y cynnig mewn egwyddor, ni allaf gefnogi’r cynnig gan nad wyf yn credu mai gosod dyletswydd statudol yw’r dull cywir i’w fabwysiadu ar hyn o bryd ar gyfer cyflawni gwelliannau ledled Cymru. Yn benodol, nid yw’r effaith ar y cwricwlwm ysgol yn un y gall y Llywodraeth ei chefnogi, a gobeithiaf egluro hynny’n eithaf manwl a defnyddiol.
Nodais yn fy natganiad ysgrifenedig ym mis Rhagfyr y gwaith ardderchog a wnaed ar draws yr ysgolion fis Hydref diwethaf, pan hyfforddwyd oddeutu 17,000 mewn amrywiaeth o sgiliau achub bywyd. Gall dull o’r fath weithio’n dda yn ein system ysgol gan ddefnyddio platfform presennol addysg bersonol a chymdeithasol. Ond wrth edrych ymhellach i’r dyfodol tuag at yr adeg pan fydd gennym gwricwlwm newydd yn dilyn proses Donaldson, mae’r dystiolaeth orau wedi dangos i ni fod defnyddio deddfwriaeth yn y ffordd y mae’r cynnig yn ein hannog i wneud wedi arwain at system wedi’i gorlwytho a rhy gymhleth. Ni ddylem ddiystyru’r ddadl honno yn syth. Roedd Donaldson yn glir iawn ynglŷn â hyn. Rydym yn awyddus i ddefnyddio deddfwriaeth yn gynnil, ac rwy’n sicr yn deall y bwriad da, fod y cynnig yn ceisio ychwanegu sgiliau achub bywyd fel rhan orfodol o’r cwricwlwm. Ar hyn, nid wyf yn cytuno â barn Suzy Davies na fyddai hyn yn tanseilio ein dull o weithredu sy’n deillio o adolygiad Donaldson. Rwy’n meddwl o ddifrif na all y rhai ohonom sy’n cefnogi’r adolygiad sylweddol hwn a’r posibilrwydd o gwricwlwm cydlynol dorri ar draws dull Donaldson wedyn drwy wneud cynigion unigol ar gyfer ychwanegiadau gorfodol i’r cwricwlwm newydd cyn iddo gael ei gwblhau a’i roi ar waith.
Nawr, mae gwaith eisoes wedi dechrau ar ddatblygu cynllun trawiad ar y galon y tu allan i’r ysbyty a fydd yn edrych ar ffyrdd o wella CPR a mynediad at ddiffibrilwyr—themâu cyffredin yn y ddadl heddiw. Rydym eisoes yn dechrau gwneud cynnydd yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas â mynediad at ddiffibrilwyr drwy’r gofrestr, gyda thros 2,000 wedi’u cofrestru ers i mi lansio ‘Byddwch yn arwr diffib’. Dechreuodd yr ymgyrch honno ym mis Chwefror 2015. Dylem hefyd fanteisio i’r eithaf ar y tebygrwydd rhwng y gwasanaethau brys a’u hymrwymiad ar y cyd i gadw pobl a chymunedau’n ddiogel. Mae diffibriliwr ar bron bob injan dân bellach, ac mae diffoddwyr tân wedi cael eu hyfforddi mewn sgiliau achub bywyd. Rwyf wedi cytuno gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar gyfres o flaenoriaethau er mwyn helpu i ganolbwyntio cefnogaeth y gwasanaeth tân ac achub i’r GIG. Mae’r blaenoriaethau y byddwn yn gweithio i’w cyflawni yn 2017-18 yn cynnwys cymorth ar gyfer ymateb meddygol brys.
Fodd bynnag, mae’n werth nodi, yng Nghymru, yn dilyn y newidiadau a wnaethom i’n model ymateb ambiwlansys, fod amser cyfartalog ymateb ambiwlans i ataliad y galon yng Nghymru bellach rhwng pedair a phum munud. Mae hwnnw’n welliant sylweddol gan ein bod wedi ailffocysu ein gallu i gael pobl at y galwadau lle y ceir perygl gwirioneddol i fywyd. Nawr, er mwyn i’r cynllun ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty allu gwreiddio, rwy’n meddwl bod angen i ni adeiladu ar y momentwm sydd gennym eisoes cyn gwneud penderfyniad ynglŷn â chyflwyno gofyniad gorfodol. Mae’r cynllun yn cael ei ddatblygu gyda phartneriaid ar draws y teulu GIG, y gwasanaethau brys a’r trydydd sector. Fel yr Aelodau eraill, hefyd, rwyf am gydnabod a chroesawu gwaith yr ymgyrch yn y trydydd sector, gydag ystod eang o wirfoddolwyr a’r hyfforddiant a ddarperir ganddynt. Gwn fod pob Aelod yn cael cyfle iddynt hwy a’u staff gael hyfforddiant cymorth cyntaf gan nifer o wahanol sefydliadau, ac rwy’n cydnabod y gwaith y maent eisoes yn ei wneud. Maent yn sicr yn rhan o’r broses o gynhyrchu ein cynllun newydd a sicrhau ei fod yn cael ei wireddu. Rydym yn cydnabod bod sgiliau achub bywyd a gweithdrefnau cymorth mewn argyfwng yn amlwg yn hynod o bwysig, ac mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith y sefydliadau hynny yn codi ymwybyddiaeth a helpu pobl i gael y sgiliau hynny.
Yr wythnos diwethaf, fel y soniodd yr Aelodau, lansiodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru eu hymgyrch diffibrilwyr ddiweddaraf, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o’r hyn yw diffibriliwr, ble i ddod o hyd i’r un agosaf, a pha gymorth sydd ar gael i ddod o hyd i un. Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n manteisio ar y cyfle i gefnogi’r ymgyrch honno ac yn arbennig, i wrando ar eiriau Dai Lloyd fod diffibrilwyr modern yn eich siarad drwy’r hyn sydd angen i chi ei wneud ac os oes rhywun yn cael ataliad ar y galon—rydych yn hollol iawn—dim ond helpu y gallwch ei wneud. Rwy’n gobeithio bod honno’n neges y bydd pobl yn ei chlywed ac o ddifrif yn ei chylch.
Rwy’n derbyn ei bod yn hollbwysig fod poblogaeth Cymru yn cael cyfle—pob cyfle—i oroesi trawiad ar y galon a bod gwybodaeth ac adnoddau yn cael eu darparu ar eu cyfer, pethau fel diffibrilwyr, a fydd yn hwyluso’r ymdrechion a wneir i achub bywydau. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda sefydliadau ledled Cymru i gyflawni hyn, ond ar hyn o bryd, nid wyf yn argyhoeddedig fod gofyn cael deddfwriaeth. Nawr, pe bai hon yn ddadl Cyfnod 1, yna buasai’r Llywodraeth yn gwrthwynebu’r cynnig. Fodd bynnag, bydd y Llywodraeth yn ymatal heddiw a bydd pleidlais rydd gan aelodau’r meinciau cefn yn fy mhlaid. Ond drwy ymatal, mae’r Llywodraeth yn dymuno dangos ei chefnogaeth i barhau i wella sgiliau achub bywyd a’n safbwynt fod deddfwriaeth yn opsiwn posibl yn y dyfodol lle y mae’n amlwg naill ai mai dyna’r ffordd orau ymlaen neu mai dyna’r unig ffordd i wneud cynnydd pellach. Ond byddwn yn parhau i wneud cynnydd ar ein cynllun ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty. Rydym am weld beth a ddaw o hynny ac yna byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Aelodau yn y lle hwn, o ba blaid bynnag, i geisio achub bywydau ac adolygu’r hyn y dylai ein camau nesaf fod wrth i ni symud ymlaen i geisio gwella bywydau ac wrth gwrs, achub bywydau.
Galwaf ar Suzy Davies i ymateb i’r ddadl.
Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi hyn heddiw, a diolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet, gan nad wyf yn gwrthwynebu’r hyn y mae’n bwriadu ei wneud? Yr hyn rwy’n ei ddweud yw ei fod yn mynd i gymryd llawer gormod o amser. Mae’n cymryd dwy awr i hyfforddi plentyn i achub bywyd; mae’n cymryd 10 munud i ladd rhywun sy’n dioddef trawiad ar y galon. Felly, rwy’n siomedig nad ydych wedi gallu dangos cefnogaeth i hyn heddiw. Mae Dai Lloyd yn hollol iawn: ni ddylai unrhyw un yng Nghymru farw o anwybodaeth neu ofn, a dyna beth y gallai diffyg sgiliau achub bywyd ar lefel y boblogaeth ei olygu i Gymru. Fodd bynnag, rwy’n benderfynol o wneud fy rhan cyn i bawb ohonoch adael, ac felly, os ydych yn fodlon, rydym yn mynd i wneud ychydig o hyfforddiant achub bywyd yn awr. Diolch.
Mae CPR babanod yn hanfodol i’w wybod. Mae yna rai camau syml, felly dyma ni.
Ewch at ffôn.
Peidiwch â mentro.
Yn gyntaf rhaid i chi ffonio am ambiwlans.
Ond tra byddwch yn aros i’r ambiwlans gyrraedd, dyma rai awgrymiadau i helpu eich baban i oroesi.
Rhowch eich baban ar arwyneb gwastad a gogwyddo eu pen ôl. Peidiwch â bod yn nerfus—nerfus, o.
Rhowch bum pwff dros y geg a’r trwyn. Ansicr beth a olygwn? Wel, dyma sut i wneud.
Un pwff, dau bwff, tri phwff, pedwar. Mae pump yn ddigon, peidiwch â phwffio rhagor.
Rhowch ddau fys ar y frest a phwmpiwch 30 gwaith, dim mwy, dim llai.
Pwff, pwff a 30 pwmp arall. Ailadroddwch hyn nes i’r ambiwlans ddod. Pwff, pwff a 30 pwmp arall. Ailadroddwch hyn nes i’r ambiwlans ddod.
Diar, roedd hynna’n hwyl.
Ac yn llawn gwybodaeth.
Mae ein gwaith yma wedi ei wneud.
O, mae angen gwyliau arnaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi’r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.