Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 14 Chwefror 2017.
Brif Weinidog, a yw'n dderbyniol i chi bod ymgeiswyr Plaid Lafur yn gweithio'n agos gydag UKIP ar y cwestiwn o addysg cyfrwng Cymraeg? Ac a ydych chi’n cytuno â mi fod yr ymgyrch yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir Caerfyrddin wedi troi’n wenwynig ac yn annerbyniol? A wnewch chi amlinellu pa gamau y gwnewch chi eu cymryd o ran aelodau'r Blaid Lafur yn gweithio gydag UKIP i danseilio eich polisïau Cymraeg eich hun?