Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 14 Chwefror 2017.
Rwy’n cytuno bod y sefyllfa yn Llangennech wedi troi’n wenwynig. Nid wyf yn credu bod y geiriau a ddefnyddiwyd gan arweinydd Plaid Cymru wedi helpu'r sefyllfa o ran troi hwn yn fater gwleidyddol. Ceir rhai sylwadau a wnaed gan wleidyddion nad wyf yn cytuno â nhw. Rwyf wedi gweld y sylwadau hynny, ac rwy’n credu ei bod yn hynod bwysig nawr bod awyrgylch digynnwrf, bod y gwenwyndra—rhywfaint o’r gwenwyndra rwy’n credu a welwyd gennym ddiwethaf rai blynyddoedd yn ôl—yn cael ei leihau nawr, a bod y cyngor, wrth gwrs, yn gallu esbonio i'r bobl yn Llangennech cystal ag y gallant—