<p>Y Diwydiant Pysgod Cregyn</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 14 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:10, 14 Chwefror 2017

Diolch am yr ateb yna. Yn 2015, mi oedd amaethu pysgod cregyn yn werth rhyw £12 miliwn i economi Cymru. Mae o’n ddiwydiant ac yn gyflogwr pwysig yn fy etholaeth i ac mae’r gallu i werthu mewn marchnad sengl yn ddi-doll wedi bod yn gyfraniad pwysig tuag at lwyddiant y diwydiant. I roi ffigurau i chi, mae 98 y cant o gynnyrch y Bangor Mussel Producers yn cael ei allforio—rhyw 70 y cant i’r Iseldiroedd, 20 y cant i Ffrainc a 10 y cant i Iwerddon. A gaf i ddyfynnu gan un o arweinwyr y diwydiant yna, sydd wedi canmol rhai o’r trafodaethau sydd wedi digwydd yn fewnol yng Nghymru ers y bleidlais? Mae o’n dweud ei fod o’n ofni y gwaethaf i Gymru drwy’r ffaith na fydd gan Gymru na’r Alban na Gogledd Iwerddon lais uniongyrchol yn y trafodaethau ar adael yr Undeb Ewropeaidd. A all y Prif Weinidog, felly, ddweud wrthym ni beth fydd strategaeth Llywodraeth Cymru o hyn allan i geisio diogelu dyfodol y diwydiant pwysig yma?