Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 14 Chwefror 2017.
Mae 90 y cant o’r pysgod sydd yn cael eu dal yng Nghymru yn cael eu hallforio, felly byddai unrhyw rwystr, toll neu unrhyw fath o rwystr arall yn wael i’r rheini sy’n allforio. Rydym yn gwybod bod y farchnad yn y Deyrnas Unedig yn rhy fach i sicrhau dyfodol iddyn nhw a dyna pam mae mor bwysig i sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cadw at ei gair er mwyn sicrhau bod yna lais cryf i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ystod y trafodaethau dros y ddwy flynedd a mwy nesaf.