9. 8. Dadl: Morlynnoedd Llanw

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:19 pm ar 14 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 6:19, 14 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ganolbwyntio’r rhan fwyaf o fy sylwadau ar y morlyn llanw ym mae Abertawe, ond a gaf ddechrau drwy longyfarch Charles Hendry ar ei adroddiad? Yn rhy aml, mae adolygiadau o'r math hwn yn eu colli eu hunain mewn amwysedd a ffwdanu, heb ddod i unrhyw gasgliadau clir ond yn ychwanegu at y niwl ac at yr oedi, ond nid hwn. Dyma’r union fodel o'r hyn y dylai adolygiad gweddus ei wneud. Mae wedi’i ystyried yn ofalus, mae wedi’i gyflwyno ar ôl ystyriaeth ddyledus ond heb oedi gormodol, ac mae ei gasgliadau a’i argymhellion yn gryno a phwrpasol: dylai Llywodraeth y DU gefnogi morlyn llanw Abertawe yn bendant ac yn brydlon fel cynllun braenaru—y cynllun braenaru—i archwilio'r potensial a'r heriau sy’n gysylltiedig â chyflwyno mwy o forlynnoedd llanw. Yng ngeiriau Charles, mae’n ‘bolisi dim-gresynu’ i’r Llywodraeth, neu fel yr wyf fi a llawer o bobl eraill wedi ei ddweud mewn termau mwy llafar, mae'n benderfyniad hawdd. Ond dewch imi ar y dechrau un: does dim achos dros ddiystyru ystyriaethau amgylcheddol, doed a ddelo. Rhaid gweithio drwyddynt i gyrraedd penderfyniad boddhaol. Ni allwn drin yn ysgafn y materion a godwyd gan y rheini, gan gynnwys fi fy hun, sydd yn gywir yn rhoi'r pwys mwyaf ar y cynefinoedd a'r rhywogaethau sy’n aml yn arbennig ac yn unigryw, ac ecoleg a hydroleg ardal leol afon Hafren a môr Hafren ei hun.

Os bydd, fel y mae Charles wedi ei nodi, rhaglen genedlaethol ehangach o ddatblygu morlynnoedd llanw, mae'n gwneud synnwyr llwyr y dylai fod yn seiliedig ar ymagwedd ofodol strategol briodol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer cynllunio ac asesu, neu yng ngeiriau Ysgrifennydd y Cabinet, cynllun morol. Ac mae dull polisi cenedlaethol, wrth gwrs—mae'n synhwyrol, mae'n ddymunol, mae hyd yn oed yn hanfodol i barhau i’w cyflwyno'n ehangach fel yna. Ac, wrth gwrs, mae angen inni edrych ar sut yr ydym yn ymdrin â’r mesurau diogelwch uchaf yn y cyfarwyddebau cynefinoedd yn ogystal â'r gyfarwyddeb fframwaith dŵr, ac a yw rhanddirymiadau yn angenrheidiol, yn ddymunol neu hyd yn oed yn bosibl. Mae angen archwilio llawer mwy cyn eu cyflwyno'n ehangach fel yna.

Ond rydym hefyd yn edrych ar yr agweddau eraill: y peryglon llifogydd, yr amddiffynfeydd rhag llifogydd, y newidiadau i gynefinoedd a’r dadleoliad, colli cynefin rhynglanwol a'r effeithiau ar rywogaethau ymfudol gwerthfawr, ar ansawdd dŵr a materion pysgodfeydd, a newidiadau hydrodynamig a morffodynamig i’r amgylchedd ffisegol, a llawer mwy cyn eu cyflwyno'n ehangach. Ar gyfer rhaglen ehangach a’u cyflwyno'n ehangach, mae’n rhaid ystyried hyn oll, ac rwy'n awyddus i chwarae fy rhan wrth graffu ar gyflwyniad o'r fath.

Ond ar gyfer y morlyn yn Abertawe, a ddisgrifir yn adolygiad Hendry fel cynllun braenaru, dim ond tri chlo sydd ar ôl. Ac rwy’n gobeithio, gydag ewyllys da, yn ogystal â diwydrwydd dyladwy ar bob ochr, y gellir agor y tri chlo hynny ar yr un pryd ac yn foddhaol, ac yn fuan. Y ddau gyntaf yw’r drwydded forol a'r gorchymyn caniatâd datblygu, sydd yn ddwy broses ar wahân yng Nghymru, yn wahanol i Loegr, ond y gellir eu gwneud ar y cyd. Felly, byddwn yn gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet am sicrwydd y bydd hyn yn digwydd, ac na fydd rhaid inni aros am gyfnodau dilyniannol a fydd yn ychwanegu at yr oedi. A'r mater ag angen sylw ar gyfer y drwydded forol yw’r effaith ar bysgod, ac anallu’r cwmni, hyd yn hyn, i fodloni gwasanaeth caniatáu Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, ar ôl llawer o waith, rydym ar ddeall gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn eu briff—ac rwy’n dyfynnu—‘bydd yr ymgeisydd yn gwneud cyflwyniad mwy manwl i'r gwasanaeth caniatáu maes o law, ac i ategu datblygu cyflwyniad, mae arbenigwyr technegol CEFAS a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi cytuno i ddarparu cyngor ychwanegol. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ac unwaith y caiff y gwaith hwn ei gwblhau, yna bydd angen cyflwyniad gan TLSB, y morlyn, i'r gwasanaeth caniatáu ar gyfer yr adolygiad.’ Maent yn mynd ymlaen: 'Yna, bydd rhaid cynnal ymgynghoriad i roi sail i’r asesiadau technegol y mae’n ofyniad cyfreithiol bod y gwasanaeth caniatáu yn eu cynnal. Dim ond ar ôl bodloni'r holl ofynion deddfwriaethol y gellir gwneud penderfyniad am y drwydded forol.’ Yn y cyfamser: 'Rydym hefyd yn deall bod y gorchymyn caniatâd datblygu yn cynnwys 42 o ofynion ar gyfer amodau’r drwydded, y bydd angen i awdurdodau cynllunio lleol—ACLlau—eu rhyddhau cyn y gallai gwaith adeiladu gychwyn. O'r rhain, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgynghorai statudol ar 15.’

Nawr, rhaid cwblhau’r materion hyn yn ddyfal ac yn briodol, ond gallwn hefyd wneud hyn â diwydrwydd dyladwy a heb oedi dyledus. Rwy'n annog yn gryf y dylai’r ddau Ysgrifennydd Cabinet weithio gyda'i gilydd ar y mater hwn—a gyda'u swyddogion; dod â nhw at ei gilydd, dod â Chyfoeth Naturiol Cymru at ei gilydd—ac annog a dwyn perswâd a mynnu bod Cyfoeth Naturiol Cymru ac ACLlau a phawb sy'n ymwneud â’r broses yn sicrhau bod penderfyniad cyflym ar y materion hyn yn brif flaenoriaeth.

Gan dybio y bydd Ystâd y Goron am weld y cynllun braenaru’n mynd yn ei flaen, mae hynny'n ein gadael gyda'r trydydd clo a'r olaf, ac mae allweddi hwn gan Lywodraeth y DU ar ffurf cymorth ariannol drwy'r contract ar gyfer gwahaniaeth, neu’r hyn a elwir yn gyffredin yn bris taro. Gallai arddangosfa drawsbleidiol o gefnogaeth unedig yma heddiw, ynghyd â’r gefnogaeth ehangach gan y gymuned fusnes, y gymuned addysg uwch, y sector ynni cynaliadwy ac eraill, gan gynnwys y llythyr hwnnw gan dros 100 o ASau trawsbleidiol heddiw, fod yn olew i’r clo a chaniatáu i'r allwedd droi ychydig yn haws ac yn llawer cynt.