<p>Canfyddiadau’r Gyllideb Werdd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 1:31, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Mae adroddiad cyllideb werdd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dangos yr amrywiaeth eang yng nghanran y rhai sy’n hawlio budd-dal analluogrwydd ar draws y DU, gyda de Cymru yn cyrraedd 8 y cant yn gyson, ochr yn ochr â lleoedd eraill megis gogledd-ddwyrain Lloegr, a Glannau Merswy, a gorllewin yr Alban, tra bo’r ganran sy’n hawlio yn is na 4 y cant mewn rhannau mawr o dde Lloegr. Felly, a yw’n cytuno y byddai unrhyw newidiadau y gallai’r Canghellor eu gwneud i bolisïau yn y maes hwn yn effeithio’n anghymesur ar dde Cymru’n benodol, ac y byddai angen adnoddau ychwanegol sylweddol i’w cyflawni?