Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 15 Chwefror 2017.
Wel, Lywydd, mae Julie Morgan yn llygad ei lle i dynnu sylw at effaith anghymesur polisïau diwygio lles Llywodraeth y DU ar Gymru. Ac fel Llywodraeth, ac yn wir, ar draws llawer o rannau o’r Cynulliad hwn, rydym wedi galw’n gyson ar Lywodraeth y DU i newid y llwybr y mae’n ei ddilyn yn hynny o beth. Weithiau, dywedir mewn llaw-fer, Lywydd, oni wneir—fod Cymru’n hŷn, yn fwy sâl, ac yn dlotach na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig? Ac mae pob un o’r tair elfen honno yn effeithio’n uniongyrchol ar y bobl a fyddai’n dymuno gallu hawlio budd-daliadau i’w helpu gyda phroblemau salwch ac analluogrwydd sydd ymhell y tu hwnt i’w rheolaeth hwy.