Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 15 Chwefror 2017.
Rwy’n cytuno gydag Andrew R.T. Davies fod rhaid i chi gymryd y fframwaith cyllidol ochr yn ochr â chyllideb werdd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, gan fod peth potensial gan un i liniaru’r llall. Mae’r ffigur o £600 miliwn yn yr adroddiad a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a Chanolfan Llywodraethiant Cymru o fewn yr ystod o £500 miliwn i £1 biliwn a nodwyd gennym yn ein hamcangyfrif o’r hyn y byddai’r fframwaith cyllidol yn ei ddwyn i Gymru. Mae yno, Lywydd, i’w gloriannu yn erbyn rhai o’r risgiau yr ydym yn eu cymryd fel rhan o’r fframwaith cyllidol. Serch hynny, mae ein hamcangyfrif yn agos at un yr adroddiad ddoe, ond yn dangos, hyd yn oed wrth ystyried y risgiau hynny, y bydd y fframwaith cyllidol yn dod â refeniw ychwanegol i Gymru, a byddwn am ei roi ar waith i liniaru rhai o’r toriadau y mae’r gyllideb werdd yn dangos eu bod ar y ffordd yma.