<p>Canfyddiadau’r Gyllideb Werdd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 1:34, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr y byddech yn cytuno nad yw caledi byth yn gweithio. O Arlywydd Hoover yn yr Unol Daleithiau i Wlad Groeg heddiw, y cyfan y mae caledi wedi’i wneud yw gwneud pethau’n waeth. Pan gyhoeddodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ei gyllideb werdd, gwyddom fod ei gyfarwyddwr wedi dweud y byddai’r ychydig flynyddoedd nesaf yn cael eu diffinio gan y toriadau mewn gwariant a gyhoeddwyd gan George Osborne. Pa effaith y bydd y toriadau arfaethedig hyn yn y gwariant yn ei chael ar bobl Cymru?