<p>Canfyddiadau’r Gyllideb Werdd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:35, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â’r hyn a ddywedodd Mike Hedges. Mae polisi caledi yn bolisi hunandrechol. Mae’n gwneud pethau’n waeth yn hytrach nag yn well, ac mae modd dangos hynny o’r effaith a welwn ar waith yn ymarferol mewn mannau eraill. Ar effeithiau uniongyrchol y toriadau yn y gwariant a nodir yng nghyllideb werdd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, yr hyn y gwyddom ei fod yn dod i Gymru yw gostyngiad yn ein refeniw o 8 y cant rhwng y flwyddyn 2009 a 2019, a thoriad o 21 y cant yn ein cyllideb gyfalaf rhwng 2009 a 2019, ac nid yw hyn yn cynnwys y toriadau o £3.5 biliwn y mae Llywodraeth y DU yn parhau i ddweud y bydd yn eu gwneud i gyllidebau yn 2019-20. Cyfarfûm â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ddoe, gyda Gweinidogion cyllid o’r Alban a Gogledd Iwerddon. Gyda’n gilydd, fe wnaethom bwysleisio wrth y prif ysgrifennydd yr angen i Lywodraeth y DU roi’r gorau i’w chynlluniau ar gyfer y toriadau niweidiol hyn a’r effeithiau y buasent yn eu cael ar y gweinyddiaethau datganoledig ar draws y Deyrnas Unedig.